Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyddonwyr o Gymru yn dadansoddi cod genetig Covid-19
- Awdur, Geraint Thomas
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae gwyddonwyr o Gymru yn dadansoddi cod genetig COVID-19 er mwyn deall mwy am y modd mae'r feirws yn lledaenu.
Fel rhan o gynllun gwerth 拢20m ar draws y DU, mae t卯m ymchwil o Brifysgol Caerdydd a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar samplau unigolion sydd wedi eu heintio 芒 coronafeirws.
Bydd y gwaith yn creu darlun o'r modd y mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo ac yn datgelu os oes mathau newydd o'r feirws yn datblygu.
Casglu a dadansoddi samplau
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn gwella ein dealltwriaeth o'r pandemig ac yn achub bywydau yn y pen draw.
Mae cod genetig y feirws yn dangos sut y cafodd ei ffurfio, ond gall newidiadau bach ddigwydd wrth i'r feirws ddatblygu.
Mae casglu a dadansoddi samplau nifer o gleifion yn galluogi gwyddonwyr i ddeall mwy yngl欧n 芒 sut yn union mae'r feirws yn lledaenu.
Er enghraifft, os oes gan gr诺p o gleifion samplau tebyg iawn mae'n bosib eu bod nhw'n rhan o'r un clwstwr.
Gall y wybodaeth yma gael ei rannu'n gyflym gyda'r gwasanaeth iechyd a llywodraethau a'u helpu i drefnu ymateb i'r pandemig.
Dr Tom Connor fydd yn arwain y ganolfan yng Nghaerdydd.
"Bydd y gwaith yma yn ein helpu i ddeall coronafeirws a'i ymlediad," meddai.
"Trwy ddadansoddi samplau pobl gydag achosion o COVID-19, gall gwyddonwyr fonitro newidiadau yn y feirws ar raddfa genedlaethol er mwyn deall sut mae'r feirws yn lledaenu a gweld os oes gwahanol fathau yn dod i'r amlwg.
"Bydd y wybodaeth yma yn helpu o ran gofal clinigol cleifion - ac yn y pen draw bydd yn helpu achub bywydau.
"Gyda'r ganolfan wedi ei lleoli yng Nghaerdydd gallwn helpu ymdrech genedlaethol y DU yn erbyn y feirws."
Yn ogystal 芒 Chaerdydd, bydd samplau cleifion sydd wedi cael diagnosis o COVID-19 yn cael eu danfon i ganolfannau yn Belfast, Birmingham, Caergrawnt, Caeredin, Caerwysg, Glasgow, Lerpwl, Llundain, Norwich, Nottingham, Rhydychen a Sheffield.