Rhybudd am 'effaith ddifrifol' coronafeirws ar bysgotwyr
- Cyhoeddwyd
Go brin fod unrhyw weithgaredd na diwydiant sydd heb gael ei effeithio mewn rhyw fodd gan coronafeirws.
Fyddai rhywun ddim yn meddwl, er enghraifft, y byddai'r feirws yn effeithio ar y diwydiant pysgota, gan fod y pysgotwyr allan ar y m么r ar eu pen eu hun.
Ond nid felly y mae hi.
Oherwydd bod popeth ar y lan wedi cau, does dim marchnad i'r pysgod a'r cregyn mae ein pysgotwyr yn eu dal.
Dim marchnad, dim incwm, a hynny ar ben y gaeaf mwyaf stormus i'r diwydiant ei wynebu ers 20 mlynedd - a dim gobaith am wythnosau rhoi'r cychod yn y d诺r.
Mae Sion Williams yn pysgota o Borth Colmon ar Benrhyn Ll欧n.
"Mae o wedi effeithio yn ddifrifol ofnadwy, mae'r marchnadoedd i gyd wedi cau, yn Ewrop, yn Asia a'r marchnadoedd adra," meddai.
"Mae'r bwytai i gyd wedi cau, mae'r proseswyr wedi cau ac mae'r masnachwyr wedi stopio prynu, a does 'na ddim llawer o obaith ar y gorwel chwaith o bethau yn gwella yn y misoedd i ddod."
Hyd yn oed cyn i'r feirws daro'r diwydiant doedd Sion Williams ddim wedi gallu mynd allan i bysgota fawr ddim ers y Nadolig oherwydd y stormydd a'r gwyntoedd cryfion.
Roedd wedi gobeithio y byddai'n gallu gwneud yn iawn am rywfaint o'r golled honno nawr bod y tywydd yn gwella.
"Does yna ddim arian yn dod i mewn," meddai.
"Mae gen i bobl sy' arnyn nhw arian i mi cyn hyn ac maen nhw methu talu ac mae biliau yn dod i mewn 'run peth.
"Rydan ni hefyd fel diwydiant wedi bod yn paratoi ein hoffer a chynllunio ymlaen, ac mae gen i beiriannau newydd i'r cwch i fod i gyrraedd ym mis Mai.
"Mae'r pysgotwyr i gyd yn yr un sefyllfa a fi, gwario lot yn y gaeaf yn barod at yr haf a r诺an biliau mawr a dim arian yn dod i mewn i dalu amdanyn nhw."
Cymorth
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Canghellor y DU, Rishi Sunak gynlluniau i roi grant o hyd at 拢2,500 y mis i weithwyr hunangyflogedig.
Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd hyn yn amddiffyn 95% o bobl hunan-gyflogedig.
Mae Mr Williams yn dadlau fod y diwydiant pysgota yn wahanol i ddiwydiannau eraill ac felly angen cymorth arbenigol.
"'Dan ni isio cymorth ariannol ar frys i sicrhau'r pysgotwyr ac mae rhaid cysidro fod gan nifer o'r pysgotwyr griw yn gweithio iddyn nhw," meddai.
"Rhaid cofio bod yna bobl eraill yn ddibynnol arnon ni hefyd a rhaid eu cefnogi nhw, neu pan fydd pethau'n gwella bydd y rhwydwaith sy'n ein cefnogi ni fel diwydiant ddim yn bodoli."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2019