Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwirfoddolwr o Aberystwyth yn gorfod gadael Malawi
Yn sgil haint coronafeirws, mae nifer o elusennau wedi galw eu gwirfoddolwyr yn 么l adref - yn eu plith Siwan Davies o Aberystwyth a oedd newydd deithio i weithio am gyfnod ym Malawi ar ran elusen Tearfund.
Cyn mynd, roedd Siwan wedi bod yn hynod brysur yn codi arian ar gyfer ei thaith ac fe gyrhaeddodd Malawi bythefnos yn 么l ond wythnos yn ddiweddarach wedi i haint coronafeirws ledu ar draws y byd, cafodd wybod ei bod yn gorfod gadael.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg 大象传媒 Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd Siwan ei bod wedi edrych ymlaen gymaint i weithio yn Affrica yn ystod ei blwyddyn gap.
"Roedd y cynllun yma gyda Tearfund, wir yn apelio," meddai "gan ei fod yn ein hannog ni fel gwirfoddolwyr i helpu pobl i fod yn annibynnol.
"Nid dim ond rhoi pethau i bobl ond eu dysgu."
"Ro'n yn gwybod hefyd fy mod eisiau gweithio gyda phlant ac roedd gweithio gyda phlant amddifad ym Malawi, wir yn apelio.
"Maen nhw yn dweud bod Malawi yn un o wledydd hapusaf y byd, er ei bod yn un o'r rhai tlotaf, ac roeddwn i eisiau dod i weld a phrofi hynna," ychwanegodd.
Doedd Siwan erioed wedi teithio mewn awyren o'r blaen a doedd hi ddim yn disgwyl y byddai'n teithio mewn awyren ddiwrnodau wedi iddi gyrraedd.
'Mor siomedig'
Ychwanegodd: "Roeddwn i mor siomedig ond doedd dim dewis arall gan yr elusen ac roedden ni'n deall hynny fel t卯m ond 'nath llawer ohonom grio am ychydig.
"Doedden i wir ddim am adael - roedd y gwaith roedden ni fel gwirfoddolwyr fod i wneud yn swnio'n anhygoel.
"Roedden i hefyd newydd ddod i adnabod dwy arall o'r t卯m yn dda - un o Awstralia ac un arall o Seland Newydd.
Dim ond wythnos fu Siwan yno ond mae'r argraff a'r ymdrechion i helpu pobl yn y wlad wedi creu cryn argraff arni.
"Mi oedd y wlad gymaint mwy nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl -roedd y gwaith y mae'r elusennau yn ei wneud yn anhygoel ac roeddwn i mor ffodus i gael gweld hynna.
"Roedd y tlodi yn amlwg iawn ond o ran yr amgylchedd, roedd hi mor wyrdd yno - roeddwn wedi disgwyl lle llawer iawn mwy anial. Mae'n wlad mor brydferth ac mi o'dd y bobl yn hyfryd ac mor gynnes," meddai.
Mae elusen Tearfund wedi dweud y bydd Siwan yn gallu mynd yn 么l am dri mis rhywdro eto ac y mae'n gobeithio y bydd hynny'n bosib cyn iddi fynd i Brifysgol fis Medi nesaf.
"Gobeithio yn wir, fe fyddai hynny yn hyfryd ac yn gyfle i fi wireddu fy mreuddwyd," ychwanegodd Siwan.