Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Datgelu pecyn newydd o gymorth ariannol
Mae pecyn cymorth gwerth 拢1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi cael ei ddatgelu.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai nod y gronfa ydy galluogi i fusnesau "oroesi storm coronafeirws".
Bydd rhagor o gynlluniau yn cael eu cyhoeddi trwy gydol yr wythnos fel rhan o'r pecyn cymorth.
Daw'r arian o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru a pheth arian ychwanegol o Drysorlys Llywodraeth y DU.
62 wedi marw
Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod 14 person arall 芒 Covid-19 wedi marw yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf, gan ddod 芒'r cyfanswm i 62.
Cafodd 210 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, gyda chyfanswm o 1,451 wedi cael prawf positif yng Nghymru hyd at ddydd Llun.
Dywedodd Mr Drakeford fod effaith coronafeirws ar yr economi yn "syfrdanol".
Bydd 拢500m o'r arian yn cael ei roi tuag at gronfa argyfwng i fusnesau ac elusennau i'w helpu i oroesi'r argyfwng fel y gallan nhw barhau i gynnig swyddi a nwyddau yn y dyfodol.
O'r pecyn 拢1.1bn, mae tua 50% wedi dod gan y Trysorlys o ganlyniad i'r arian sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer Lloegr.
Daw tua 25% o arian yr UE, sydd wedi cael ei "ailbwrpasu" fel arian argyfwng ar gyfer delio gyda coronafeirws, ac mae'r 25% arall yn arian sydd wedi cael ei dynnu oddi ar adrannau eraill Llywodraeth Cymru, fel ffyrdd a pherthnasau rhyngwladol.
Mae'r arian yma ar ben nawdd gwerth 拢1.4bn oedd eisoes wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Economi, Ken Skates.
Cyfyngiadau am barhau am hir
Dywedodd Mr Drakeford yn ei gynhadledd ddydd Llun bod ganddo "ddim amheuaeth" y bydd y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi yn para'n hirach na thair wythnos, ond y bydd y mesurau yn cael eu llacio dros amser.
Roedd dirprwy-brif swyddog meddygol Lloegr wedi rhybuddio ddydd Sul ei bod yn disgwyl i'r mesurau presennol bara am hyd at chwe mis.
Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd profion sy'n datgelu os ydy unigolyn wedi cael Covid-19 yn dod i Gymru yn yr wythnosau nesaf, ond nad ydyn nhw'n barod eto.
Bu hefyd yn rhoi clod i weithwyr iechyd a gofal, gan ychwanegu bod yr ymateb gan y rheiny sydd eisiau gwirfoddoli wedi bod yn "anhygoel".