大象传媒

'Prinder sgiliau petai ffermwyr yn cael eu heintio'

  • Cyhoeddwyd
gwartheg godro yn pori mewn cae

Mae pryder yngl欧n 芒 diffyg sgiliau petai ffermwyr yn cael eu taro'n wael gan haint coronafeirws.

Yn cael eu categoreiddio fel gweithwyr allweddol, mae'r diwydiant yn un hollbwysig i gynnal y gadwyn fwyd.

Wrth i brisiau llaeth a chig ostwng, y diwydiant bwytai ddymchwel, ac arferion prynu cwsmeriaid newid, mae'n gyfnod hynod heriol i'r diwydiant.

Ar ben hynny, mae bwlch wedi ymddangos yng nghadwyn fwyd gwledydd eraill sydd heb weithwyr fferm wrth gefn.

'Aberthu eu hunain'

Yn 么l un undeb amaethyddol, mae diogelu lles anifeiliaid yn dod cyn lles personol yn aml iawn.

Dywedodd Aled Jones, sy'n rhedeg fferm odro ger Caernarfon ac yn ddirprwy Lywydd NFU Cymru: "Mae ffermwyr y math o bobl fyddai'n aberthu eu hunain mewn ffordd, a pharhau i weithio pan ddylsan nhw 'wrach fod yn eu gwely.

"Petawn i neu'r mab yn cael y ffliw yma, sut bysan ni'n gallu cadw draw ond eto sicrhau bo ni'n gallu godro a rheoli'r fferm?

"Fysan rhaid i ni neud yn si诺r bod y gwartheg yn cael eu cadw a'u diogelu. 'Dan ni'n cymryd y cyfrifoldeb yna o ddifri.

"Mae'n gyfrifoldeb mawr hefyd i wneud yn si诺r bo ni ddim yn ymledu'r ffliw i neb arall. Mae o'n cadw fi'n effro yn y nos yn meddwl am sut byddan ni'n dygymod."

Mae'r diwydiant amaeth yn teimlo effaith y coronafeirws, fel pawb arall.

Ergyd cwymp y diwydiant ymwelwyr

Mae 70% o gynnyrch cwmni cynhyrchu llaeth Freshways yn cael ei werthu i'r sector ymwelwyr - i westai a bwytai.

Ar 么l i'r farchnad honno ddiflannu'r wythnos ddiwethaf, maen nhw wedi gostwng y pris maen nhw'n ei dalu am laeth gyda s么n bod rhai ffermwyr godro wedi cael cais i leihau faint o laeth maen nhw'n ei gynhyrchu.

Cafwyd gostyngiad hefyd mewn prisiau defaid, gyda'r farchnad gig oen yn "aruthrol o ansefydlog" ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhys Davies, prif weithredwr cwmni Farmers Marts, Dolgellau

Dywedodd Rhys Davies, prif weithredwr Farmers Marts Dolgellau: "Mae'r restaurants i gyd wedi cau, felly ni'n gweld pobl yn symud i fwyta adre ac oherwydd hynny mae pobl isio mwy o gig rhad fel mins.

"Dydy bobl ddim isio'r st锚cs a'r darnau cig drud - yr un peth gyda'r cig oen."

Gwerthu da byw dros y w锚

Mae rhai o'r martiau llai wedi gorfod cau yn barod gyda Dolgellau yn ceisio meddwl am ffyrdd newydd, diogel i barhau 芒'r gwaith.

Bydd y farchnad nesaf yn cael ei chynnal ar-lein, gyda gofyn i bobl yrru lluniau o'u gwartheg duon i gael eu ffrydio a'u gwerthu ar y we yn unig.

"Mae'n bwysig bo ni'n cadw'r holl system i fynd, mae'r gadwyn fwyd yn beth cymhleth a chi mond isio un peth bach i dorri'r cyfan i lawr."