大象传媒

Bwrdd iechyd yn gwadu honiadau uwch nyrs ddienw

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GlangwiliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adroddiad papur newydd wedi amlinellu pryderon aelod staff yn Ysbyty Glangwili

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud eu bod yn "arwain y ffordd" o ran ymateb i'r pandemig coronafeirws, er gwaethaf honiadau fod staff ysbytai'n cael gorchymyn i "gadw draw" o gleifion yn sgil prinder cyfarpar diogelwch personol priodol.

Dywedodd y prif weithredwr Steve Moore, sydd newydd wella o'r feirws, fod y bwrdd yn wynebu heriau o ran y gadwyn gyflenwi, ond bod y cyflenwadau cywir yn eu lle.

Mae'r bwrdd yn gwadu honiadau mewn adroddiad papur newydd gan uwch nyrs ddienw yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, fod yna risg i iechyd staff yng ngorllewin Cymru.

Honnodd y nyrs eu bod yn cael cyngor i "gerdded oddi wrth" cleifion petai yna sefyllfa argyfwng fel ataliad ar y galon a'r staff ag offer diogelwch annigonol.

'Deall yr ofn a'r pryder'

Dywedodd Mr Moore wrth 大象传媒 Cymru: "Dydy e ddim yn wir.

"Dydy hynny ddim yn digwydd, er rwy'n deall pam y gallai'r aelod staff arbennig yna fod wedi codi'r peth.

"Mae angen delio 芒'r materion hynny a rhoi sicrwydd i bobl cyn belled ag y gallwn ni yn nhermau'r hyn sy'n iawn iddyn nhw a'u cleifion."

Ychwanegodd: "Rwy'n llwyr ddeall yr ofn a'r pryder presennol, ac rwy'n gallu deall sut all y pethau 'ma ddigwydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steve Moore: "Rwy'n llwyr ddeall yr ofn a'r pryder presennol"

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch offer diogelwch personol digonol ar gyfer staff y bwrdd, dywedodd Mr Moore bod yna broblemau ond fod y ddarpariaeth gywir ar gael.

"Gallwn ni wastad wneud 'da chael mwy ond mae hyn yn ymwneud 芒 bod yn barod am don o achosion - sicrhau ein bod wedi sortio problemau'r gadwyn gyflenwi cyn y cynnydd mawr o achosion rydyn ni'n ei ddisgwyl.

"Ar hyn o bryd, mae gyda ni'r cyflenwadau cywir yn eu lle."

Cafodd canllawiau newydd eu cyhoeddi ddydd Iau ynghylch y defnydd o offer diogelwch personol ar gyfer staff ysbytai.

"Mae'r cyngor yn wirioneddol ddefnyddiol ac mae'n atgyfnerthu'r hyn roedden ni eisoes yn ei wneud yn Hywel Dda," meddai Mr Moore.

"Rydym yn parhau i weithio gyda chadwyni cyflenwi heriol yn lleol ac yn genedlaethol i sicrhau fod gyda ni bopeth rydyn ni angen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae camau i sicrhau mwy o offer diogelwch cyn y cynnydd y mae disgwyl yn nifer achosion Covid-19

Dywedodd Steve Moore ei fod wedi dal coronafeirws tra ar wyliau a'i fod wedi synnu pan glywodd ei fod wedi cael prawf positif.

"Ar y pryd roedden ni'n dal yn cynnal profion cymunedol," meddai.

"Er 'mod i'n teimlo'n s芒l, doeddwn i ddim yn meddwl 'mod i ag unrhyw un o'r symptomau oedd yn cael eu crybwyll.

"Dyna'r her - mae'n gallu ymddangos mewn ffyrdd gwahanol i wahanol bobl.

"Doedd gen i fawr o beswch na gwres, ond yn anarferol i mi roedd gen i gur pen drwg am rai diwrnodau."

'Mae pobl yn dod drwyddi'

Gan gydnabod fod nifer y bobl sy'n marw ar 么l cael y feirws yn frawychus, mae'n pwysleisio fod llawer o bobl yn gwella ar 么l cael eu heintio.

"Mae'n wirioneddol anodd cael y balans yn gywir. Mae pobl yn bryderus ond mae nifer y bobl sy'n dod drwyddi'n tyfu bob diwrnod.

"Mae'n ddychrynllyd ond mae pobl yn dod drwyddi."