Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Haint yn ergyd newydd i weddw sy'n gohirio ailbriodi
- Awdur, Geraint Thomas
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae'n bwysig bod pobl yn chwilio am gymorth os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi gydag amgylchiadau'r argyfwng coronafeirws, yn 么l menyw gollodd ei g诺r a'i mab yn 2015.
Roedd Anna-Louise Bates yn paratoi i ailbriodi ym mis Mai, ond mae'r briodas wedi'i gohirio oherwydd y pandemig.
Bu farw Stuart Bates, 43, a Fraser, saith, ar 么l iddyn nhw gael eu taro gan gerbyd ar yr A4119 yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf bron i bedair blynedd a hanner yn 么l.
Dywedodd Anna-Louise fod "ofn" arni i rannu sut oedd hi'n teimlo mewn gwirionedd, gan ychwanegu mai'r peth cywir i'w wneud yw chwilio am gymorth.
Roedd ei merch, Elizabeth yn dair oed adeg y digwyddiad, ac mae hi bellach yn h欧n na'i brawd ar yr adeg y bu farw.
Fe wnaeth hi annog Zachary Stubbings i ofyn i'w mam i'w brodi n么l ym mis Medi.
"Dywedais y dylai'r ddau ohonyn nhw fod yn gariadon a ro'n nhw'n cytuno," meddai.
"Rwy' am i Mam fod yn hapus ar 么l trasiedi'r gorffennol. Rwy' eisiau i'm mam deimlo'n well oherwydd dydy hi ddim yn haeddu hyn."
Mae Anna-Louise wedi cael anhawster gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn dilyn y gwrthdrawiad, ac yn dweud ei bod hi'n teimlo'n euog ar 么l iddi oroesi'r digwyddiad.
"Mae'r teimlad dwfn gen i o hyd bod yn rhaid fy mod i wedi gwneud rhywbeth o'i le i hyn i gyd ddigwydd i mi. Rhywbeth mor ofnadwy," meddai.
"Gall y byd i gyd ddweud wrthyf na ddylwn i deimlo'n euog, ac nid fy mai i yw hyn i gyd, ond 'dwi methu helpu'r peth."
Fodd bynnag, mae'n dweud bod cwrdd 芒 Zach wedi gwella'r sefyllfa.
"Mae cael rhywun i ddal fy llaw yn ei wneud yn well ac mae e wedi bod yn wych, yn hollol anhygoel, ac felly rwy'n gwybod yn rhan arall fy ymennydd mai dyma sy'n iawn i ni."
Cafodd Zach ddiagnosis o ganser y gwaed yn 2012 ac felly mae yn y categori bregus o ran dal coronafeirws.
Oherwydd profiadau bywyd anodd Anna-Louise a Zach, dywedodd hi eu bod yn "gwybod mwy nag unrhyw un nad ydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory".
Ychwanegodd bod angen i chi "ddal gafael ar hapusrwydd" lle bynnag gallwch chi.
Aeth rhoddion organau Stuart a Fraser ymlaen i achub nifer o fywydau, a sefydlodd Anna-Louise yr elusen cymorth rhoi organau Believe yn yr wythnos ar 么l eu marwolaeth.
Mae Anna-Louise a Zach wedi penderfynu cynnal parti ar-lein yn lle'r briodas ym mis Mai, ac maen nhw wedi trefnu dyddiad newydd ar gyfer y seremoni ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Maen nhw wedi penderfynu defnyddio'r ddau ddigwyddiad i gefnogi Help for Heroes, a gefnogodd Zach yn dilyn ei ddiagnosis canser, ac elusen Believe.