'Rhwydwaith' o ganolfannau profi Covid-19 'o fewn dyddiau'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio sefydlu "rhwydwaith" o ganolfannau prawf coronafeirws ar draws y wlad o fewn y dyddiau nesaf.
Dywedodd Vaughan Gething fod disgwyl i'r cyntaf - ger Stadiwm Dinas Caerdydd - ddechrau gweithredu heddiw.
Bydd rhagor yn agor yng Nghasnewydd, y de orllewin a'r gogledd, a hynny i brofi staff iechyd a gofal i ddechrau.
Mae 15,000 o brofion coronafeirws wedi eu cynnal yng Nghymru ers mis Ionawr, gyda thri chwarter o'r rheiny'n dod yn 么l yn negyddol.
Prawf gwrthgyrff 'yn yr wythnosau nesaf'
Daw hynny wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 19 arall oedd 芒 Covid-19 wedi marw yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod 芒'r cyfanswm swyddogol i 212.
Cafodd 291 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 3,790 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod fod mwy o bobl 芒'r feirws mewn gwirionedd, gan mai'r cyfarwyddyd i'r rhan fwyaf o bobl sydd 芒 symptomau yw i aros gartref.
Wrth siarad yng nghynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei bod hi'n cymryd 24 awr i gael canlyniad prawf ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i hynny "gyflymu".
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 7 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ychwanegodd bod disgwyl i'r tri chanolfan brawf nesaf agor o fewn "saith i 10 diwrnod", ac y byddai cyflogwyr yn rhoi gwybod i bobl os oedden nhw'n gymwys.
Y bwriad, meddai, fydd sicrhau yn y pen draw bod modd i bobl "deithio i gael eu profi o fewn 30 munud i'w cartref", a'u bod hefyd yn gweithio ar gael prawf yn y cartref.
Ar hyn o bryd dim ond prawf i weld a oes gan rywun coronafeirws sydd ar gael, ond dywedodd y gweinidog iechyd eu bod yn gobeithio dod o hyd yn yr wythnosau nesaf i brawf fydd yn gallu gweld a ydy rhywun wedi cael yr haint.
Dywedodd Mr Gething fod ymdrechion hefyd yn parhau i sicrhau mwy o offer diogelwch i staff iechyd wrth iddyn nhw daclo'r pandemig.
"Rydyn ni mewn llawer gwell lle yma yng Nghymru wrth weithio fel rhan o deulu ehangach y DU i sicrhau'r offer hwnnw," meddai.
Teyrnged i lawfeddyg
Yn y gynhadledd fe dalodd Mr Gething deyrnged i lawfeddyg o Gaerdydd sydd wedi marw 芒 coronafeirws.
"Roeddwn i'n drist iawn o glywed am ei farwolaeth," meddai.
"Mae'n dangos, waeth beth ydy'ch arbenigedd neu gyflawniadau chi... fod hyn yn gallu effeithio arnoch chi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020