大象传媒

Hosbisau ac elusennau iechyd yn galw am gymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
St David's HospiceFfynhonnell y llun, Hosbis Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yn ddibynnol ar ddigwyddiadau codi arian ac elw o'r siop a'r caffi

Mae hosbisau ac elusennau iechyd yn galw am gymorth ariannol brys er mwyn parhau i gynnal eu gwasanaethau.

Mae haint coronafeirws yn golygu bod llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi gorfod cael eu canslo, ac yn ogystal mae siopau a chaffis hefyd wedi gorfod cau a'r arian a ddaw o rhain yw unig ffynhonnell ariannol nifer o elusennau.

Mae Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yn gorfod ariannu 70% o'u gwasanaethau clinigol.

Bob blwyddyn maent yn codi oddeutu 拢3.5m drwy gynnal digwyddiadau a gwerthu nwyddau.

Mae cais wedi cael ei wneud i Lywodraeth Cymru am sylw.

Bwriad gofal lliniarol mewn hosbis yw gwella ansawdd bywydau pobl sydd 芒 salwch na ellir ei wella.

Mae Hosbis Dewi Sant bellach yn ceisio codi arian drwy gyfraniadau ar-lein fel bod staff yn gallu parhau 芒'u gwaith yng Nghaerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a Phowys.

"Mae cyflogau'r nyrysys yn cael eu talu drwy ein siopau a'n gweithgareddau codi arian," meddai'r prif weithredwr Emma Saysell.

"Yn ystod haint COVID-19 ry'n wedi gorfod cau ein siopau a does dim modd cynnal digwyddiadau codi arian - felly mae'r cyllid yn llai ond ry'n am ddarparu mwy o ofal er mwyn helpu staff y GIG yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Dywedodd Caroline Roberts, sy'n nyrs glinigol yn yr hosbis, bod pawb o "dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd".

"Mae'n brysur ac fe fydd hi'n brysurach ond ein dymuniad yw cefnogi cleifion a pharhau 芒'n gwaith."

'Angen 拢9,000 y dydd'

Yng ngogledd Cymru mae Hosbis T欧'r Eos yn gorfod dod o hyd i ffyrdd eraill o godi 拢9,000 y dydd - sef y cyllid sydd ei angen i gynnal y safle.

Mae siop a chaffis yr hosbis hefyd wedi cau ac un ffordd o sicrhau cyllid yw darparu gwasanaeth cludo prydau bwyd.

Dywedodd Lauren Tilston, pennaeth yr adran cynhyrchu incwm: "Mae'r cynllun cludo prydau i bobl fregus a phobl sy'n hunan-ynysu yn y gymuned.

"Mae ein cogyddion yn paratoi prydau gwych ac yn eu cludo i bobl yn y gymuned. Mantais arall y cynllun hwn yw ei fod yn codi arian sydd ei angen i ofalu am gleifion yn yr hosbis."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lauren Tilston bod yr hosbis wedi gorfod meddwl am ffyrdd eraill o godi arian

Mae nifer o elusennau iechyd hefyd yn cael trafferth cynnal gwasanaeth arferol.

Dywed elusen Bobath Cymru, sy'n cynnig therapi i blant 芒 pharlys yr ymennydd, ei bod yn debygol o golli traean o'i hincwm ac fe allai hynny gael effaith ar ei gwasanaethau.

Mae'r elusen bellach yn cynnig cymorth ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb.

Yn 么l Jenny Carroll, un o gyfarwyddwyr yr elusen bydd y cyfnod hwn yn cael effaith hir-dymor ar elusennau.

"Mi gymrith hi gryn amser," meddai, "i elusennau, os wnan nhw bara, i fynd n么l i lle'r oedden nhw cyn haint coronafeirws."