Cyngor Sir G芒r yn gorfod canfod ei gyflenwad PPE ei hun

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae un o gynghorau Cymru'n cyrchu ei gyflenwadau ei hun o offer diogelwch personol (PPE) oherwydd "diffyg tryloywder" cyflenwadau Llywodraeth Cymru.

Yn 么l Cyngor Sir G芒r mae diffyg gwybodaeth ynghylch faint neu ba fath o offer sy'n cael ei ddarparu bob wythnos yn ei gwneud hi'n anodd cynllunio.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole o Blaid Cymru ei fod yn "ddiolchgar" i'r llywodraeth am eu hymdrechion "ond dydyn nhw ddim yn rhoi'r darlun cyfan".

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi gwybod i gynghorau am eu cyflenwad, ond dywedon nhw nad yw hyn wastad yn bosib oherwydd bod y sefyllfa'n newid yn gyson.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cyflenwadau PPE ar gyfer gweithwyr rhengflaen wedi bod yn 'bryder mawr' i gynghorau.

Ychwanegodd llefarydd fod yna gwestiynau wedi eu codi am argaeledd cyflenwadau.

"Mae hyn am ein gallu ni i gynllunio ymlaen llaw o un wythnos i'r nesaf," meddai Mr Dole.

"Dwi ddim eisiau gadael unrhyw un heb ofal achos ein bod ni'n brin."

'Ddim yn diwallu ein hanghenion'

Dywedodd bod y cyflenwad wedi gwella o fod yn "anghyson" i ddechrau ac erbyn hyn fod yr offer yn cyrraedd yn wythnosol.

"Rwy'n ddiolchgar i'r llywodraeth am bopeth maen nhw'n ei wneud, ond wnaeth cyflenwad ddydd Llun ddim diwallu ein hanghenion wythnosol," meddai Mr Dole

"Wedyn fe wnaethon ni ofyn i'r llywodraeth am fwy, ac fe gawson ni hynny, ond yr wythnos nesa' mae'n dechrau eto.

"Rydyn ni angen gwybod beth sydd ar gael."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Emlyn Dole bod angen "sicrhau bod ein darparwyr gofal yn saff ac wedi eu diogelu'n ddigonol"

Dywedodd Mr Dole ei fod yn bl锚s bod canllawiau newydd ar ddefnydd offer diogelwch personol wedi eu cyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, ond bod modelu ar y rheolau hynny'n golygu y byddai'r cyngor angen 76,000 o fygydau bob wythnos.

Cafodd swyddogion y cyngor gais i edrych ar gael gafael ar offer diogelwch personol ar ddechrau'r pandemig, a dywedodd Mr Dole ei fod yn cymryd popeth sydd ar gael.

"Cyn belled 芒'i fod yn cydymffurfio gyda'r safonau, rydyn ni'n prynu unrhyw beth y gallwn ei gael."

Cyfrifoldeb i ofalu

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod a oedd yn torri unrhyw reolau, ond mynnodd bod ganddo gyfrifoldeb i ofalu am bobl.

"Rydyn ni mewn argyfwng ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein darparwyr gofal yn saff ac wedi eu diogelu'n ddigonol," meddai Mr Dole.

"Dwi wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am dryloywder am beth sydd ganddyn nhw fel ein bod ni'n gallu cynllunio.

"Does dim ots gen i gael fy meirniadu'n hwyrach cyn belled 芒 fy mod i'n diogelu pobl."

'Gweithio'n gyflym i gynyddu'r cyflenwad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n darparu mynediad at offer PPE i bob awdurdod lleol trwy'r rhwydwaith o storfeydd offer cymunedol ar draws Cymru.

"Ble fo'n bosib byddwn yn dweud wrth awdurdodau lleol beth allan nhw ddisgwyl ei dderbyn.

"Ond am ein bod yn gweithio'n gyflym i gynyddu'r cyflenwad PPE i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n golygu na allwn ni wastad roi'r union fanylion am yr hyn sydd i ddod.

"Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu amserlenni penodol ar gyfer pob storfa."