大象传媒

Disgwyl tarfu ar addysg plant 'am gyfnod sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Diweddariad

Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi dweud na fydd ysgolion yn ail-agor ar gyfer addysg statudol wythnos nesaf, ac ni fydd newid "buan iawn" i'r sefyllfa.

Wrth siarad yn ystod diweddariad dyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Mercher, ychwanegodd Ms Williams y byddai ysgolion yn ailagor dim ond pryd bydd y cyngor meddygol a gwyddonol yn dweud y byddai'n ddiogel i wneud hynny.

Dywedodd Ms Williams: "Fe ddylem ni baratoi ein hunain ar gyfer cyfnod sylweddol o darfu ar ein system addysg.

"Rwyf mor awyddus ag unrhyw un i ailagor ein hysgolion unwaith eto, ond mi fydda i'n gwneud y penderfyniad yna dim ond pan fyddaf yn derbyn cyngor gan ein prif swyddog meddygol a phrif swyddog gwyddonol fod hyn yn beth diogel i'w wneud.

"Ac ar hyn o bryd dydw i ddim wedi derbyn y cyngor yna ond dyna pan fydd rhai ysgolion yn ail-agor, pan fydd yn ddiogel i staff a phlant fod yn 么l yn yr ysgol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth ysgolion Cymru gau ar ddydd Gwener 20 Mawrth fel rhan o'r mesurau ymbellhau cymdeithasol sydd yn ymgais i leihau ymlediad haint coronafeirws, ond mae rhai wedi parhau ar agor i ddarparu gofal i blant gweithwyr hanfodol.

Gofynnwyd iddi os byddai Llywodraeth Cymru'n dilyn penderfyniadau gwledydd eraill fel Ffrainc, sy'n bwriadu ail-agor ysgolion yng nghanol mis Mai.

Dywedodd Ms Williams nad oedd "o gymorth" i bobl ddyfalu pa ddyddiad fyddai ysgolion yn ail-agor.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid ystyried faint o'r gweithlu oedd ar gael cyn ailagor ysgolion, gan bwysleisio pan fyddai ysgolion yn ailagor na fyddai'n achos o "fusnes fel arfer".

Dywedodd: "Mae'r cyngor gwyddonol yn eglur iawn o ran parhad yr arfer o ymbellhau'n gymdeithasol, felly beth yw ymarferoldeb gweithredu hyn o fewn yr ysgol? Efallai byddwn mewn sefyllfa lle gallwn weld cyfran o'r disgyblion yn dychwelyd."

Esboniodd Ms Williams fod y llywodraeth yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith o gau ysgolion ar blant".

Roedd hi'n bryderus yn benodol am yr effaith ar "ddisgyblion oedd dan yr anfantais ariannol mwyaf".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd disgyblion TGAU a Lefel A ddim yn sefyll eu harholiadau eleni

Dywedodd fod llawer o waith yn cael ei wneud i ddarparu addysg drwy ddefnyddio platfformau digidol

"Rydym mewn lle da i wneud hyn fel cenedl gan fod gennym blatfformau digidol o'r radd flaenaf ar gael i'n holl ddysgwyr ag athrawon mewn ysgolion," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn cydweithio gydag ysgolion a chynghorau i fynd i'r afael ag "eithrio digidol" a sicrhau fod cyfleoedd dysgu'n cael eu ehangu.

"Gadewch i mi fod yn eglur - dydyn ni ddim am, a nid ydym yn disgwyl i rieni fod yn athrawon ffurfiol, ond mae angen i ni ddarparu cefnogaeth i rieni i'w helpu i helpu eu plant".

Dywedodd hefyd ei bod yn disgwyl gweld cynnydd yn y galw am gefnogaeth iechyd meddwl i blant sydd yn pryderu am effaith coronafeirws ar eu iechyd a'u haddysg.Fe allai sesiynau cwnsela gael eu darparu dros y we yn ystod y cyfnod yma o ymbellhau cymdeithasol, meddai.

Ymateb undeb

Yn dilyn sylwadau Kirsty Williams, fe ddywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb y prif athrawon, NAHT Cymru: "Rydym yn cytuno gyda Kirsty Williams y dylai ysgolion ailagor dim ond pan fod y dystiolaeth wyddonol benodol yn eglur fod hyn yn beth diogel i'w wneud.

"Diogel i ddisgyblion, diogel i staff a diogel i rieni. Bydd ysgolion yng Nghymru yn croesawu'r eglurder y mae hi wedi ei roi iddyn nhw am ysgolion yn parhau i fod ar gau wedi gwyliau'r Pasg."

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad am gynnydd yn y gwariant ar wasanaethau cwnsela ysgolion. Mae hwn yn gyfnod pryderus i ni gyd, ac mae arweinwyr ysgolion yng Nghymru wedi pryderu'n benodol am yr effaith y bydd Covid-19 yn ei gael ar blant yn dychwelyd i'r ysgol."