大象传媒

Radio Ysbyty Gwynedd yn codi calonnau o'u cartrefi

  • Cyhoeddwyd
Radio Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Radio Ysbyty Gwynedd

Ers i'r llywodraethau gyflwyno gwaharddiadau ar symud ac oherwydd yr angen i ddiogelu staff a chleifion tydi ymwelwyr ddim cael mynd i'r ysbytai i weld eu hanwyliaid.

Mae hynny'n peri loes a thor-calon i deuluoedd, boed eu hanwyliaid yn dioddef o'r coronafeirws neu ryw salwch arall.

Does ryfedd felly fod gwasanaeth radio ysbytai wedi dod yn wasanaeth hynod werthfawr yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i deuluoedd a ffrindiau gysylltu 芒'r gwasanaeth er mwyn anfon cyfarchion.

Ac mae'r gwasanaeth ei hun yn wynebu anawsterau oherwydd y gwaharddiadau.

Cafodd gwasanaeth Radio Ysbyty Gwynedd ei sefydlu 40 mlynedd yn 么l mewn stiwdio fechan y tu mewn i'r ysbyty.

Ond oherwydd y feirws mae'r gwirfoddolwyr yn darlledu o'u cartrefi ac mae'r peiriannydd Roger Richards, sydd hefyd yn wirfoddolwr, yn trefnu'r cyfan o'i gartref yntau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sarah Wynn Griffiths: 'Y gwasanaeth yn fwy poblogaidd nag erioed'

Dywed Sarah Wynn Griffiths, sy'n cyflwyno rhaglen Yr Awr Hapus ar nos Iau fod y gwasanaeth yn fwy poblogaidd nag erioed y dyddiau hyn.

"Dwi'n meddwl bod ni angen bod yna fwy nag erioed r诺an ar gyfer y cleifion a'u teuluoedd a bod ni'n actio fel rhyw fath o gysylltiad hefyd yn y gymuned a dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod ni'n trio bod mor 'normal' 芒 fedran ni, a trio cadw cysylltiad a codi calonnau teuluoedd, ffrindiau a cleifion tra maen nhw'n yr ysbyty.

"'Dan ni'n cael lot o negeseuon i bobl sydd yn yr ysbyty a hefyd lot o bobl yn y gymuned isio d'eud diolch i staff Ysbyty Gwynedd am y gwaith anhygoel maen nhw'n wneud yn y cyfnod anodd yma."

Ac nid dim ond y cleifion a'u teuluoedd sy'n gwerthfawrogi'r gwasanaeth.

Mae staff yr ysbyty hefyd yn llawn clod am yr hyn mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud.

Sian Gruffydd ydy rheolwr arweiniol yr adran gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd: "'Dan ni mor ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr i gyd sydd yn rhoi'r gwasanaeth yma, mae'n adeg ofnadwy o unig i'r cleifion ac i'r teuluoedd ac os fedrwn ni gadw'r cysylltiad yna i fynd drwy'r radio a drwy gerddoriaeth mi wnawn ni bopeth i hyrwyddo hynny."

Ac wrth i ni i gyd baratoi i wynebu tair wythnos arall o gyfyngiadau llym ar ein symudiadau, mi fydd Radio Ysbyty Gwynedd yn parhau i godi calon a chynnal fflam o obaith yn y dyddiau tywyll yma.