Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwyno cyffur newydd i gyn-ddefnyddwyr heroin
Mae cyffur newydd i'r rhai sy'n gwella wedi iddynt fod yn ddibynnol ar heroin wedi ei gyflwyno yng Nghymru yn sgil haint coronafeirws.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig buprenorphine.
Mae'n cael ei roi fel chwistrelliad fydd yn para am fis ac felly mae'n wahanol i methodone neu driniaethau dyddiol eraill.
Y gobaith yw y bydd yn lleihau'r nifer sydd angen ymweld 芒 fferyllfeydd yn ddyddiol i gasglu presgripsiynau.
Dywedodd un ddynes, a fu'n gaeth i heroin, ac sydd yn derbyn y driniaeth, ei fod wedi gwneud hi'n "obeithiol ar gyfer y dyfodol".
Ers bod yn rhan o gynllun peilot buprenorphine mae'r ddynes 36 oed yn dweud bod y driniaeth wedi ei gwneud yn "annibynnol" a rhoi pen clir iddi.
Mae'n teimlo bod y driniaeth yn help mawr yn ystod y pandemig presennol gan nad oes yn rhaid iddi ymweld 芒 fferyllfa yn ddyddiol.
'Ymateb positif'
Dywedodd Martin Blakebrough, prif weithredwr elusen Prosiect Kaleidoscope, bod y cyffur yn weddol newydd.
"Fe wnaethon ni ddewis pobl ar gyfer y peilot oedd yn debygol o elwa," meddai.
"Mae'r ymateb wedi bod yn bositif ond ry'n ni angen sicrhau fod pobl yn parhau i dderbyn therap茂au eraill."
Wrth iddo gyhoeddi bod y cyffur yn cael ei gyflwyno drwy Gymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod haint coronafeirws yn cyflwyno risg mawr i gyn-ddefnyddwyr heroin gan bod eu system iminwedd yn gallu bod yn wan.
Dywedodd: "Bydd y gwasanaeth newydd yn helpu sicrhau fod pobl yn parhau i gael cymorth ar gyfer eu dibyniaeth tra'n lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws.
"Mae staff yn ein fferyllfeydd cymunedol a gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yn gwneud gwaith anhygoel o dan amgylchiadau anodd.
"Mae lleihau eu llwyth gwaith a'r risg i'w hiechyd yn hanfodol."