大象传媒

Cynghorau ar eu colled 拢30m y mis achos coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Andrew Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cychwynnodd Andrew Morgan yn ei swydd ym mis Rhagfyr 2019

Mae cynghorau lleol ar eu colled mwy na 拢30m y mis mewn incwm o achos y coronafeirws medd arweinydd Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Andrew Morgan bod yr effaith ar gynghorau wedi bod yn "enfawr".

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi arian ychwanegol i gynghorau Lloegr ac yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru o ganlyniad yn cael 拢95m.

Croesawu'r arian wnaeth Llywodraeth Cymru gan ddweud y byddai yn ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.

Pan mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddan nhw yn rhoi arian i lywodraethau datganoledig, fel y cyhoeddiad ddydd Sadwrn, mae'n cyrraedd trwy fformiwla Barnett.

Penderfyniad gweinidogion Cymru yw hi yngl欧n 芒 sut mae'r nawdd yn cael ei wario.

Dywed Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod cynghorau mewn amgylchiadau arferol yn cael arian trwy bethau fel eu theatrau, canolfannau hamdden, incwm parcio a llogi adeiladau.

Mae hyn heb ystyried hefyd trethi cyngor a threthi busnes sydd wedi eu gohirio dros dro.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU mae'n dweud efallai y bydd angen mwy o arian yn y dyfodol.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi blaendal efo'u grantiau wedi helpu sefyllfa'r coffrau meddai.

"Er hynny ar ddiwedd yr argyfwng yma neu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fe fydd yna dwll yn ein nawdd os nad oes yna fwy o arian yn cyrraedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl wedi bod yn gorfod gwneud ymarfer corff tu allan yn ystod yr argyfwng gan olygu bod canolfannau hamdden y cynghorau yn colli arian

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn a'u bod ar y cyd wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o arian i gynghorau.

Wrth gyhoeddi'r arian ychwanegol i Gymru dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, yn darparu nawdd iddynt gwrdd 芒'r heriau eithriadol."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn parhau i wneud "beth bynnag sydd angen i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael mynediad i'r cymorth maent angen."

Dywedodd llefarydd ar gyfer Llywodraeth Cymru eu bod yn "amlwg yn croesawu'r nawdd ychwanegol" ac y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod wedi clustnodi 拢110 miliwn o arian ychwanegol i lywodraeth leol.