大象传媒

Clwb P锚l-droed Y Rhyl i gael ei ddiddymu

  • Cyhoeddwyd
CPD Y RhylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Belle Vue, cartref CPD Y Rhyl

Mae cyfarwyddwyr Clwb P锚l-droed Y Rhyl wedi cyhoeddi eu bod wedi dechrau'r broses o ddod 芒'r clwb presennol i ben yn sgil problemau ariannol.

Dywedodd y clwb mewn datganiad bod y cyfarwyddwyr wedi cymryd y "penderfyniad anodd" ar 么l ystyried goblygiadau ariannol gwahardd p锚l-droed o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.

Ychwanegodd y datganiad bod perchennog maes y Belle Vue wedi bod yn anfodlon ystyried prydles hir dymor neu i werthu ar dermau'r farchnad.

Roedd y clwb wedi datgan yn gynharach ym mis Ebrill bod angen 拢175,000 arnyn nhw er mwyn parhau.

Er bod sawl buddsoddwr wedi dangos diddordeb ni chafodd unrhyw gynnig ariannol gwirioneddol ei gyflwyno.

Cadarnhaodd Y Rhyl eu bod wedi cael cynnig o gymorth ariannol gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru, ond na fyddai hynny wedi bod yn ddigon i achub y clwb.

Sefydlu clwb newydd

Y Rhyl oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru yn 2004 a 2009, ac maen nhw wedi ennill Cwpan Cymru bedair gwaith yn eu hanes.

Gyda'r clwb presennol yn cael ei ddiddymu, mae'r Cyfarwyddwyr a Chymdeithas Cefnogwyr Y Rhyl wedi datgan eu bwriad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu clwb newydd.

Mae'r penderfyniad i ddod 芒'r clwb presennol i ben yn golygu na fydd y clwb yn cwblhau'r tymor yng Nghynghrair y Gogledd os bydd y gystadleuaeth yn ail ddechrau, ac y bydd y clwb hefyd yn colli eu statws academi.

Yn ogystal 芒 hynny bydd y clwb yn colli ei les presennol ar faes y Belle Vue.

"Mae hwn yn ddiwrnod emosiynol i bawb sydd yn gysylltiedig gyda'r clwb - yn wirfoddolwyr, cefnogwyr, chwaraewyr, staff hyfforddi a swyddogion y clwb," meddai'r cadeirydd Paul Higginson.

"'Da ni i gyd yn gefnogwyr ac yn teimlo hyn i'r byw.

"Ond wedi dweud hynny mae gan y dref draddodiad p锚l-droed balch a chymeriad penderfynol, ac fel yn 1992, does dim amheuaeth gennai y bydd clwb newydd cryf yn codi [yn ei le]."