Ysbyty maes i barhau 'am faint bynnag bydd ei angen'
- Cyhoeddwyd
Bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn parhau fel ysbyty maes "am faint bynnag y bydd ei angen" medd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.
Fe ddaeth yr Undeb a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghyd i drawsnewid y stadiwm ar gyfer cleifion yn sg卯l argyfwng coronafeirws.
Mae gan Ysbyty Calon y Ddraig le ar gyfer hyd at 2,000 o welyau.
"Y realiti yw os bydd angen ysbyty o'r maint yma mae hi'n annhebygol iawn y bydd rygbi yn cael ei chwarae o flaen torf o 74,000," meddai Martyn Phillips.
"Doeddwn erioed wedi disgwyl y byddai'r stadiwm yn cael ei ddefnyddio fel hyn ac felly mae'n teimlo braidd yn swreal.
"Mae'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn yr wythnosau diwethaf wedi bod tu hwnt i beth oedd unrhyw un yn credu allai gael ei gyflawni."
Gohiriwyd y g锚m rhwng Cymru a'r Alban yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth oherwydd y pandemig, ac fe benderfynodd yr Undeb ohirio holl gemau rygbi'r wlad wythnos yn ddiweddarach.
Gyda dim sicrwydd pryd y bydd modd ail ddechrau chwarae gemau, a rhybudd y gallai'r gwaharddiad ar gynnal digwyddiadau barhau am fisoedd eto, mae'r posibilrwydd y gall gemau rhanbarthol a rhyngwladol gael eu cynnal tu 么l i ddrysau cae毛dig ymysg yr opsiynau dan sylw.
"Mae 'na ryw bedwar senario yn cael eu hystyried," meddai Phillips.
"Maen nhw'n amrywio o dim rygbi o gwbl i beidio chwarae o flaen torfeydd, yn ogystal 芒 chwarae o flaen torfeydd bychan neu yn 么l i chwarae o flaen torfeydd llawn.
"Mi fydde ni'n hoffi dychwelyd i fod yn 么l yn chwarae yn fuan ond dyw hynny ddim am ddigwydd yn fuan.
"Gall unrhywbeth ddigwydd ac mae'n rhaid i ni fod yn barod," meddai.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020