大象传媒

Cofnodi 110 o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
prawf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 110 yn rhagor o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid-19.

Ond mae rhan helaeth o'r marwolaethau gafodd eu nodi ddydd Gwener yn cynnwys rhai sy'n dyddio yn 么l i 20 Mawrth oherwydd oedi bwrdd iechyd y gogledd yn nodi'r marwolaethau.

Bu farw 84 o bobl gyda coronafeirws dan ofal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill.

Mae 751 o bobl a gafodd brawf positif am coronafeirws bellach wedi marw yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod nad yw llawer o farwolaethau yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal yn cael eu cynnwys felly mae'r gwir ffigwr yn debyg o fod yn uwch.

Cafodd 243 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod 芒'r cyfanswm yng Nghymru i 8,601.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 25,898 o bobl wedi cael prawf am Covid-19 yma erbyn hyn.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud mai "problemau sydd wedi eu canfod yn ein system adrodd" ydy'r rheswm dros gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau yn yr ardal yn gysylltiedig 芒 Covid-19.

Dywedodd llefarydd bod diweddariad heddiw "yn cynnwys croniad o achosion ble mae claf wedi marw ac wedi cael prawf positif am Covid-19".

Ychwanegodd: "Mae'r holl ddata ar achosion Covid-19 a marwolaethau wedi ei gasglu'n gywir ac mae'r broblem yn ymwneud 芒'r modd mae'r data yn cael ei rannu."

Dywedodd AC Arfon, Sian Gwenllian ei bod hi'n "frawychus" ei bod hi wedi cymryd mis i adrodd y ffigyrau'n llawn.

Mae'r broblem bellach wedi ei datrys yn 么l y bwrdd iechyd.