大象传媒

Perygl i fusnesau twristiaeth bach 'fynd i'r wal'

  • Cyhoeddwyd
AbersochFfynhonnell y llun, Thinkstock

Gallai busnesau twristiaeth bach "fynd i'r wal" neu ddioddef "caledi enfawr" oherwydd newidiadau i'r system grantiau yn sgil coronafeirws, yn 么l y Ceidwadwyr.

Cafodd canllawiau newydd ynghylch cymhwysedd ar gyfer y grantiau eu cyflwyno yn gynharach yr wythnos hon yn dilyn honiadau bod rhai perchnogion ail gartrefi'n manteisio ar arian sydd i fod i helpu busnesau bach.

Un o'r meini prawf ar gyfer y grant yw bod yn rhaid cynhyrchu dwy flynedd o gyfrifon, sy'n bryder i fusnesau newydd.

Dywedodd yr AS Ceidwadol David Jones ei fod yn "bolisi gwallus".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod grantiau cefnogi busnes ar gael i fusnesau hunan-arlwyo gan eu bod yn perthyn i'r categori sydd wedi dioddef yn uniongyrchol o ganlyniad i'r pandemig.

"Roedd nifer o awdurdodau lleol yn anhapus gyda'r polisi fel yr oedd gan ei fod yn eu tyb nhw yn gwobrwyo perchnogion ail gartrefi ac felly yr ydym gyda s锚l bendith awdurdodau lleol wedi newid ychydig ar bwy sy'n gymwys.

"Ond mae angen i bob ymholiad gael ei gyfeirio i'r awdurdodau lleol - nhw sy'n dosbarthu'r grantiau ac yn nodi pa dystiolaeth sydd ei angen i gefnogi'r cais."

Er bod eiddo sy'n llety hunan-ddarpar llawn amser yn aml yn cofrestru fel busnes, mae rhai ail gartrefi hefyd wedi trosglwyddo o dalu treth y cyngor - sy'n cynnwys premiwm ail gartref - i dalu ardrethi busnes.

Ac ar 么l trosglwyddo, mae'n bosib mai dim ond ychydig o dreth mae'r perchnogion yn ei dalu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig gostyngiadau i fusnesau 芒 gwerth ardrethol o lai na 拢12,000.

Os yw'r gwerth ardrethol yn llai na 拢6,000 nid yw'r perchnogion yn talu unrhyw dreth o gwbl.

Yng Nghymru, gall perchennog ail gartref osgoi talu Treth y Cyngor a chofrestru ar gyfer Trethi Busnes os yw'r eiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod y flwyddyn, ac yn cael ei osod am 70 diwrnod.

Galwodd pum cyngor sir - Gwynedd, Ynys M么n, Conwy, Ceredigion a Phenfro - ar weinidogion Cymru i newid y canllawiau fel na allai perchnogion ail gartrefi sy'n talu trethi busnes yn hytrach na threth y cyngor fod yn gymwys i hawlio'r grantiau.

Ar 22 Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru'r canllawiau fel na fydd eiddo llety hunan-arlwyo yn gymwys i gael grantiau oni bai eu bod yn cwrdd 芒'r meini prawf canlynol:

  • Dwy flynedd o gyfrifon masnachu;

  • Rhaid bod y llety wedi cael ei osod am o leiaf 140 diwrnod yn y flwyddyn ariannol 2019-20;

  • Rhaid i'r busnes fod yn brif ffynhonnell incwm y perchennog (o leiaf 50%).

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Jones yn dadlau fod goblygiadau anfwriadol i'r newidiadau i'r canllawiau

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, dywedodd David Jones, AS Gorllewin Clwyd, fod y pryder "y gallai'r grant fod ar gael i berchnogion ail gartrefi" yn "hollol ddealladwy ac yn briodol.

"Fodd bynnag, mae'r canllawiau y mae eich gweinyddiaeth wedi'u cyhoeddi, mae'n si诺r yn anfwriadol, wedi arwain at gosbi perchnogion busnesau twristiaeth bach cyfreithlon.

"Mae llawer o fusnesau twristiaeth bach yng ngogledd Cymru mewn perygl o ddioddef caledi enfawr o ganlyniad i'r hyn sy'n ymddangos yn bolisi gwallus."

Mae Mr Jones wedi galw ar Mr Drakeford i gael gwared ar:

  • y gofyniad am ddwy flynedd o gyfrifon;

  • mynnu tystiolaeth bod y llety ar gael am o leiaf 140 diwrnod yn hytrach na chael ei osod am yr amser hynny; a

  • rhoi'r gorau i'r gofyniad mai'r llety yw'r brif ffynhonnell incwm.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Janet Finch-Saunders yn galw ar Mark Drakeford i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa ar frys

Mae AC Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, hefyd wedi ysgrifennu at y prif weinidog ynghylch y mater.

Dywedodd: "Nid dyma'r amser i gosbi busnesau dilys mewn ymdrech i ddal rhai o'r unigolion hynny sydd wedi manteisio ar y rheolau ar gyfer ail gartrefi cymwys ar gyfer trethi busnes.

"Canllawiau blaenorol Llywodraeth Cymru sydd 芒'r bai am hynny.

"Gallai'r anhrefn weld rhai busnesau llety hunan-ddarpar dilys yn mynd i'r wal.

Ychwanegodd: "Ai dyna mewn gwirionedd oedd bwriad Llywodraeth Cymru pan wnaethant gyhoeddi'r grantiau yn y lle cyntaf? Os na, mae angen i'r prif weinidog weithredu'n gyflym ac yn bendant i achub y sefyllfa."

Cais am eglurhad

Awdurdodau lleol sy'n asesu ceisiadau grantiau busnesau bach a dosbarthu'r arian.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch "dehongli'r canllawiau i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n deg".

Dywedodd llefarydd: "Mae awdurdodau lleol wedi croesawu ymateb cyflym Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y system yn canolbwyntio o'r newydd ar fusnesau lleol sydd 芒'r angen mwyaf ar adeg pan mae cynghorau'n canolbwyntio'u holl adnoddau ar gefnogi ein heconom茂au a'n cymunedau lleol.

"Rydyn ni'n ymwybodol o bryderon rhai perchnogion busnesau bach ac am ganlyniadau anfwriadol posib iddyn nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna broblem gyda geiriad y canllawiau diweddaraf, yn 么; arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn: "Bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod busnesau gosod gwirioneddol yn derbyn y taliad grant sydd yn ddyledus iddyn nhw o dan y cynllun.

"Hoffwn bwysleisio mai canllawiau Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Nid dyma'r geiriad a awgrymwyd gan Gyngor Gwynedd.

"Byddai ein geiriad ni wedi bod yn llawer rhwyddach i'w weithredu, ond mae'n rhaid i ni bellach weithio o dan y canllawiau newydd sy'n gosod y tri phrawf penodol.

"Byddwn yn gwneud ein gorau glas o fewn y canllawiau i gefnogi busnesau go iawn yn ariannol.

"Hoffwn gyfleu yn ddigamsyniol ein bod yn llwyr werthfawrogi pwysigrwydd y diwydiant lletygarwch i'r economi leol yng Ngwynedd.

"Ond nid yw'n dderbyniol i ni wneud taliadau sylweddol o'r pwrs cyhoeddus i rai sydd wedi defnyddio trefn wallus Llywodraeth Lafur i osgoi talu trethi."

Roedd Robert Craven a'i wraig yn byw ym mwthyn Preswylfa yng Nghonwy am 18 mlynedd cyn ei droi'n lety hunan-ddarpar yng Ngorffennaf 2018.

Does ganddyn nhw ddim dwy flynedd o gyfrifon ariannol er mwyn cwrdd 芒'r meini prawf i gael grant.

"Roedd gennym fwy na 320 diwrnod wedi'u harchebu y llynedd ac roeddem wedi cyrraedd yr un lefel erbyn diwedd Chwefror eleni," meddai Mr Craven.

"Rwy'n rhedeg y busnes fy hun felly dyma fy mhrif incwm. Rydym wedi colli rhwng 拢3,900 a 拢7,000 y mis ond mae gennym yr holl dreuliau fel morgeisi, cyfleustodau a chostau marchnata i'w talu o hyd.

"Fel rhywun lleol sy'n byw ddwy filltir o'r bwthyn, rwy'n teimlo'n arbennig o siomedig yn fy nghyngor sy'n fy nghosbi'n ddiangen gan nad wyf wedi bod yn gweithredu'n ddigon hir."