Pryder am effaith y pandemig ar y diwydiant llyfrau
- Cyhoeddwyd
Er bod mwy yn troi at ddarllen yn ystod y pandemig, mae'n gyfnod pryderus i'r cwmn茂au a'r gweisg sy'n gyfrifol am gynhyrchu a gwerthu llyfrau.
Yn 么l Cyngor Llyfrau Cymru fe fyddan nhw'n gweithio'n agos gyda'r sector cyhoeddi i'w cefnogi.
Tan yn ddiweddar mae'r ganolfan ddosbarthu llyfrau yn Aberystwyth hefyd wedi bod ar gau - sy'n golygu nad oedd modd i fusnesau gael mwy o stoc newydd.
Ond gyda'r ganolfan wedi'i ailagor - mae yna lygedyn o obaith.
Mae gwasg Y Lolfa, sy'n cyflogi 22 o staff yn Aberystwyth, yn dweud eu bod nhw wedi colli hyd at 90% o'u hincwm oherwydd nad ydyn nhw wedi gallu cyhoeddi llyfrau o gwbl yn ystod y mis diwethaf.
Dywedodd Lefi Gruffudd, golygydd cyffredinol y Lolfa, eu bod wedi stopio cynhyrchu a chyhoeddi ond mae "golygyddion a staff yn gweithio o adref yn y gobaith y bydd pethau'n gwella".
"Mae'n sefyllfa rwystredig tu hwnt," meddai. "Ar hyn o bryd does dim modd gwerthu drwy'r siopau sydd wedi cau, er bod rhai siopau yn cynnig gwasanaeth drwy'r post.
"Mae dosbarthu hefyd yn dod i ben i rannau helaeth felly mae'n amhosib i ddelio 芒'r sefyllfa o ran diffyg incwm.
"Er dweud hynny, mae modd gwerthu ar ein gwefan sydd wedi bod yn help dros y misoedd diwethaf."
Pwysigrwydd yr eisteddfodau
Ychwanegodd: "Ni wedi colli tua 80-90% o'r incwm bydden ni'n cael.
"Os bydd hyn yn parhau yn amlwg bydd e'n ddifrifol iawn erbyn yn hwyrach yn y flwyddyn.
"Ni'n ceisio'n gorau i ddarparu llyfrau i ddarllenwyr ac yn ceisio darparu o'n gwefan. Ond mae wedi achosi chwalfa i holl gyhoeddi'r haf.
"Mae Steddfod yr Urdd a'r Genedlaethol yn lle pwysig i werthu llyfrau - llyfrau am yr Ewros a llyfrau pwrpasol ar gyfer yr Eisteddfod wedi gorfod cael eu gohirio.
"Mae'r cyfle i gwrdd 芒 darllenwyr i gyd a'r cyfleon i gyd wedi mynd."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd Mr Gruffudd: "Rydyn ni'n ddiolchgar ein bod ni'n cael cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau er mwyn sicrhau bod modd i staff golygyddol barhau i weithio felly gobeithio yn y tymor hirach byddwn ni mewn sefyllfa cryf achos fyddwn ni wedi paratoi i gyhoeddi llyfrau a dwi'n gobeithio y bydd digwyddiadau'n hwb ac yn edrych 'mlaen at Steddfod Tregaron y flwyddyn nesaf.
"Dwi'n obeithiol y bydd pethau'n gwella a byddwn ni mewn sefyllfa eitha' da i gael dod 'n么l i ddathlu y deunydd sydd ar gael i ddarllenwyr."
Effaith tymor hir?
Dywedodd Joe Knell, perchennog siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd, bod canllawiau presennol y llywodraeth wedi bod yn "ergyd fawr".
Mae'r siop wedi bod ynghau ond maen nhw wedi dechrau gwerthu eto ar-lein, drwy e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
"O'n ni'n anhygoel o brysur pan oedd pobl yn gwybod bod pethau ar fin newid ac wedyn stopion ni'n sydyn iawn gyda chyhoeddiad y lockdown," meddai. "Roedd 'na rwystredigaeth ond mae diogelwch pawb lot pwysicach.
"Mae digwyddiadau yn bwysig iawn i ni - Tafwyl yw'r pwysicaf. Mae hwnna'n mynd i fod yn drist iawn ond mae pethau eraill yn bwysicach a bod pawb yn saff."
Ychwanegodd: "Amser a ddengys sut fydd hyn yn effeithio arnon ni yn y tymor hir.
"Mi fydd yn rhaid i ni addasu sut ydyn ni'n gwerthu.
"Falle bydd e'n amser hir tan bo ni'n gallu agor drysau'r siop a falle bydd e'n lot o amser tan bydd pobl yn gallu dod i'r siop felly bydd angen meddwl am ffyrdd gwahanol o werthu llyfrau a chyrraedd pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020