Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffilmio drama deledu adre yng nghanol creisis Covid-19
Fel arfer mae dram芒u teledu yn golygu misoedd o waith sgwennu, ail-ddrafftio, ffilmio a golygu - ond mae cyfres newydd ar S4C yn cael ei chreu o'r dechrau i'r diwedd mewn dyddiau.
Mae Cyswllt yn edrych ar effaith y pandemig ar unigolion ac mae'r cyfan yn cael ei ffilmio gan yr actorion ar ffonau symudol a gliniaduron - gyda'r cyfarwyddwr yn gwylio lawr y lein ar ei chyfrifiadur.
Daeth y syniad i Pip Broughton wedi iddi orfod gohirio gorffen ffilmio cyfres newydd o Un Bore Mercher/Keeping Faith ar fyr rybudd, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Roedd eisiau gwneud drama gyfoes oedd yn adlewyrchu'r hyn oedd yn digwydd yn sgil yr argyfwng iechyd a'i ddarlledu r诺an, yn hytrach na chreu rhywbeth yn y dyfodol fyddai'n edrych yn 么l ar y sefyllfa.
Ond wrth gwrs roedd yr argyfwng coronafeirws a'r cyfyngiadau hefyd yn effeithio ar y broses gynhyrchu.
Meddai'r cyfarwyddwr Pip Broughton, o gwmni Vox Productions, wrth Cymru Fyw: "Rydyn ni wedi gorfod dysgu lot fawr, mewn cyfnod byr iawn, a tydyn ni ond yn gallu ei wneud gan fod pawb ar y t卯m yn adnabod ei gilydd mor dda, rydyn ni wedi gweithio efo'n gilydd am gyfnod mor hir ac yn ymddiried yn ein gilydd.
"Mae bocs yn cael ei yrru i'r actorion efo bob dim maen nhw angen fel ff么n wedi ei ddiheintio, gliniadur wedi ei ddiheintio. Rydyn ni'n cael ymarfer ac wedyn maen nhw'n ffilmio'r cyfan eu hunain.
"Dwi'n edrych arnyn nhw a chyfathrebu drwy Zoom (system cyfathrebu fideo) - ond dwi methu gweld beth maen nhw'n ffilmio, dim ond eu gweld nhw o'r ochr.
"Yna mae'r ff么n, efo'r holl ddeunydd, yn cael ei drosglwyddo yn 么l i'r golygydd, a'i ddiheintio, er mwyn llwytho i'r cyfrifiadur a dechrau golygu. Mae'r golygydd yn gosod ei ff么n fel fy mod i yn gallu gweld ei sgrin ar fy ngliniadur, a byddwn ni'n trafod a chyfathrebu dros y ff么n wrth iddo olygu.
"Fel hyn, mae popeth yn hollol ddiogel."
Mae'n broses newydd i'r actorion hefyd, sy'n cynnwys Hannah Daniel, Mark Lewis Jones a Catherine Ayers.
Dywedodd Catherine Ayers: "Rwy' mor falch fy mod wedi cymryd sylw o bopeth mae'r criw cynhyrchu yn ei wneud ar set dros y blynyddoedd. Rydyn ni'n cael y bocs 'ma gyda gliniadur, ff么n, weips anti-bac, bwrdd clapio a dyna ni! O'r fan honno, ni sy'n gyfrifol am bopeth, gan gynnwys beth mae'r shot yn edrych fel!"
"Fi'n ffodus gall fy ng诺r helpu os oes angen gan ei fod yn gweithio yn y diwydiant, ond mae gennym dri o blant gartref hefyd felly gallai fod yn ddiddorol.
"Gan nad ydym yn gwybod pa mor hir y bydd y sefyllfa hon yn para, mae'n braf gallu dal ati a gweithio.
"Mae fy nghymeriad i, Sian, yn dioddef o gancr. Gan fod ei g诺r yn rhedeg busnes ac yn dal i orfod dod i gysylltiad 芒 phobl, mae e wedi symud allan i babell yn yr ardd er mwyn ei hamddiffyn. Gobeithio bydd y ddrama yn taro tant gyda'r gwylwyr, yn enwedig y rhai sy'n hunan-ynysu ar eu pennau eu hunain.
"Mae'n neis meddwl gall y gyfres gynnig rhywfaint o gysur a chwmni iddyn nhw."
Bydd y gyfres o dair, gyda'r gyntaf yn cael ei darlledu heno ar Ebrill 29, yn cael ei ffilmio dros dair wythnos. Bydd y sgript ar gyfer pob pennod yn cael ei gwblhau ychydig ddyddiau cyn darlledu.
Ychwanegodd Pip Broughton ei bod yn gobeithio bod y ddrama am adlewyrchu sut mae'r argyfwng wedi newid pobl.
Meddai: "Rydyn ni i gyd wedi cael ein newid gan y sefyllfa - y ffordd rydyn ni'n ymddwyn, yn meddwl, yn teimlo - ac mae popeth yn newid yn ddyddiol, ac roedden ni eisiau gwneud drama am hynny."
Dywedodd Hannah Daniel, sy'n chwarae rhan Ffion: "Does dim drama tebyg wedi'i darlledu o'r blaen. Mae'n wych bod yn rhan o rhywbeth sy'n cael ei wneud am y tro cyntaf a fod pawb yn y cynhyrchiad yn dod at ei gilydd i chwarae rhannau gwahanol i'r arfer.
"Mae mor newydd ac arbrofol, does neb wir yn gwybod sut mae am droi allan, hyd yn oed ni. Byddai'n bendant yn gwylio nos Fercher.
"Ond, rwy' newydd sylweddoli mai fy nh欧 i yw'r set, a chan fod yr olygfa gyntaf yn fy nghegin, well i mi lanhau mae'n debyg!"
Cyswllt, 9.30 heno (nos Fercher 29 Ebrill), ar S4C, S4C Clic a 大象传媒 iPlayer
Hefyd o ddiddordeb: