大象传媒

S锚l bendith Aelodau Cynulliad i gyfyngiadau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Arwydd

Mae mwyafrif llethol o aelodau'r Cynulliad wedi rhoi s锚l bendith i'r cyfyngiadau cymdeithasol llym sydd mewn grym yn dilyn ymlediad haint coronafeirws.

Mewn cyfarfod ar-lein fe bleidleisiodd Llafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod Cynulliad y Blaid Genedlaethol, Neil McEvoy o blaid y cyfyngiadau fu mewn grym ers diwedd Mawrth.

Roedd Plaid Brexit, a'r aelodau Neil Hamilton a Gareth Bennett, yn eu gwrthwynebu.

Mae'r cyfyngiadau yn gofyn i'r cyhoedd aros adref heblaw am eithriadau cyfyngedig.

Oherwydd bod y Cynulliad yn cynnal cyfarfodydd ar-lein roedd nifer o Aelodau yn bresennol, gyda gwleidyddion wedi eu henwebu i bleidleisio ar ran eu grwpiau.

Mae hynny'n golygu bod y bleidlais wedi dod at gyfanswm o 51 aelod o blaid, a chwech yn erbyn y cyfyngiadau.

Dyma oedd cyfarfod olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn newid ei enw i Senedd Cymru ymhen wythnos.

Er bod gweinidogion wedi gwneud y cyfyngiadau yn gyfreithiol ym mis Mawrth, roedd angen iddynt dderbyn s锚l bendith y Cynulliad i barhau mewn grym.

Arweinydd gr诺p Plaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless oedd yr unig un i ddatgan gwrthwynebiad yn ystod y drafodaeth fer.

Dywedodd fod ei blaid yn "anhapus gyda Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio yn wahanol i Loegr".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Heddlu wedi erfyn ar y cyhoedd i gadw at y cyfyngiadau ac i aros gartref

Roedd yn gwrthwynebu i'r amrywiadau Cymreig oedd yn nodi y dylai pobl ond adael eu cartrefi unwaith y diwrnod i ymarfer, tra nad yw hyn yn rhan o gyfyngiadau Lloegr.

Ond fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod "y mesurau dros dro ac yn gymesur i'r bygythiad ry ni'n wynebu".

"Mae'r rhain yn gyfyngiadau synhwyrol a gyflwynwyd i ddelio gydag argyfwng iechyd cenedlaethol," ychwanegodd.