Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trwy'r Ffenest: 'Llonyddwch a heddwch mewn amser o ansicrwydd'
Mae 大象传媒 Cymru Fyw wedi gofyn i griw o wahanol artistiaid gyflwyno darnau o waith sy'n adlewyrchu, yn ymateb i neu'n dehongli'r sefyllfa sydd ohoni.
Yr artist a'r bardd Casia Wiliam sydd wedi dod at ei gilydd i greu'r darn cyntaf yn y gyfres, sef 'Trwy'r Ffenest'.
Mae'r darn yn ceisio ysgogi ymdeimlad o lonyddwch a heddwch mewn amser o ansicrwydd. Cyfle i'r gwylwyr syllu drwy ffenest wahanol, ddychmygol, tra'n gwrando ar synau'r byd mawr sydd o'n cwmpas - ond allan o'n gafael ni am y tro.
"Efallai bod y golygfeydd yn gyfarwydd iawn i rai ohonom ni, eraill yn ysu i gael eu gweld unwaith eto. Ond rhaid cofio mai rhywbeth dros dro yw'r busnes 'trwy'r ffenest' 'ma," meddai Sioned.
Trwy'r Ffenest
Gwaith celf gan Sioned Medi a geiriau gan Casia Wiliam.
Mae'r byd wedi'i fframio gan ffenest fy nh欧
tra bod ffiniau fy nyddiau mor feddal 芒 phlu.
Llif yr afon cyn lased, a ch芒n carreg lefn
sy'n fy ngalw, a'm llethu, drachefn a thrachefn.
Daw golau cymdogion i ddweud bore da
tra bod c'lonnau yn torri dan ffug heulwen ha',
a'm llygaid sy'n dilyn y bws 芒 phob sedd
yn wag ac yn dawel, fel y bedd, fel y bedd.
Fel erioed mae y lleuad, mae y s锚r, mae y gwynt,
ond heddiw mae'n cariad yn gryfach na'r bunt
a thu hwnt i'r ffenest mae s诺n curo dwylo
sy'n sychu ein dagrau am heno, am heno.
Mae'r byd wedi'i fframio gan ffenest fy nh欧
tra bod ffiniau fy nyddiau mor feddal 芒 phlu
ond er, o mor fregus yw gwydr ein stori,
edrych draw, dacw'r wawr yn torri, yn torri.
Hefyd o ddiddordeb: