大象传媒

Covid-19: Ofnau canser wedi oedi profion serfigol

  • Cyhoeddwyd
Katherine ParrFfynhonnell y llun, Katherine Parr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Katherine Parr yn dweud ei fod yn aros ers 14 mis am brawf newydd, heb wybod pa bryd fydd modd ei drefnu

Mae dynes sy'n aros am brawf serfigol pellach wedi i'r un ddiwethaf amlygu celloedd abnormal yn ofni y gallai gohirio profion yn ystod y pandemig coronafeirws arwain at achosioncanser ddim yn cael diagnosis.

Cafodd Katherine Parr, 48 oed o Wrecsam, brawf arferol ym Mawrth 2019 ac yn 么l ei llythyr canlyniadau gan Sgrinio Serfigol Cymru roedd angen iddi gael apwyntiad arall mewn 12 mis.

Ond mae meddygfa Ms Parr wedi dweud wrthi fod y profion wedi eu canslo wedi dechrau'r argyfwng Covid-19.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn ceisio datrys y sefyllfa wrth i'r argyfwng fynd rhagddo.

'Poeni am flwyddyn'

Pan ffoniodd Ms Parr Feddygfa Ffordd Gardden yn Rhosllannerchrugog i drefnu apwyntiad yn unol 芒'r llythyr, cafodd gyfarwyddyd i ffonio'n 么l mewn mis, ond pan wnaeth hynny cafodd yr un neges fod profion ddim ar gael.

Dywedodd: "Mae'r feddygfa'n dweud 'peidiwch 芒 phoeni, mae'r pethau 'ma'n cymryd blynyddoedd i ddatblygu'. Os felly, pam fod angen fy ngalw'n 么l mewn blwyddyn?

"Dwi'n gwybod gallai popeth fod yn iawn, ond dwi wedi bod yn poeni am flwyddyn."

Daeth yr achos i sylw'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi i Mrs Parr ysgrifennu at AS Wrecsam, Sarah Atherton.

Atebodd Mr Gething fod llawer o'r bobl sy'n cael apwyntiadau sgrinio yn y categori risg uwch a'i fod yn "hanfodol i leihau'r risg i'r bobl hynny".

Ychwanegodd mai cam dros dro yw canslo'r apwyntiadau a bydd sgrinio'n ailddechrau cyn gynted 芒 bod modd gwneud hynny'n ddiogel.

'Angen codi'r mater'

Dywedodd Ms Parr ei bod yn deall pa mor anodd ydy'r amgylchiadau, ond mae'n poeni fod llawer o ferched yn yr un sefyllfa 芒 hi.

"Mae angen rheoli risg, ond nid ar draul cyflyrau eraill," meddai. "Dwi'n meddwl fod hi'n bwysig i godi'r mater.

"Gallai hyn gostio mwy i'r GIG yn y tymor hir... bydd yna fwy o salwch gan fod pethau jest wedi cael eu gadael."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Meddygfa Ffordd Gardden eu bod yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn 么l arweinydd rhaglen sgrinio canser Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Ardiana Gjin, cafodd holl feddygfeydd Cymru wybod fod gohebiaeth yn ymwneud 芒 threfnu profion serfigol yn dod i ben o 20 Mawrth ymlaen.

Mae'r cyngor i feddygon, meddai, yn cael ei adolygu'r gyson.

Ychwanegodd: "Fodd bynnag, mae casglwyr samplau ar draws Cymru wedi cael cyngor, petawn nhw'n dal yn gallu cynnal clinigau sgrinio serfigol yn ddiogel, mae hynny'n cael ei gefnogi'n llawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae'r safiad yma yn unol 芒 thystiolaeth fod newidiadau yng nghelloedd ceg y groth fel arfer yn cymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu, felly mae'n annhebygol y byddai oedi byr mewn cael prawf serfigol yn achosi unrhyw broblemau sylweddol."

Dywedodd Meddygfa Ffordd Gardden na allai drafod gofal claf unigol ond eu bod yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch sgrinio.