Covid-19: Llythyrau rhybudd i 21,000 o bobl ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd wedi cael cyngor i lochesi rhag y coronafeirws wedi cynyddu i 121,000.
Daeth cyhoeddiad y Gweinidog Iechyd wrth iddi ddod i'r amlwg bod 30% o'r bobl sydd wedi marw ar 么l cael eu heintio 芒 Covid-19 yn byw mewn cartrefi gofal.
Mae 21,000 o bobl wedi cael eu hychwanegu i'r rhestr o gleifion wedi i gyflyrau meddygol eraill gael eu hychwanegu i'r rhestr o bobl sydd mewn mwy o berygl o ddioddef yn wael petaen nhw'n cael eu heintio.
Mae disgwyl i lythyrau gyrraedd cleifion 'risg uchel' yr wythnos hon yn 么l Vaughan Gething.
Mae gofyn i bobl sy'n llochesi aros adref tan y 15 Mehefin, ac i ofyn am gymorth i dderbyn nwyddau angenrheidiol.
Mae cleifion sydd ar ddeialysis ymhlith y cleifion fydd yn derbyn llythyrau newydd.
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ar ddydd Mawrth 5 Mai
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y bu 413 o farwolaethau yn gysylltiedig a Covid-19 yng Nghymru yn yr wythnos ddiwethaf.
Mae hyn yn cyfateb i 36.7% o'r holl farwolaethau yn y wlad, ac roedd 30% ohonynt mewn cartrefi gofal.
Daw hyn a chyfanswm y marwolaethau sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru hyd at y 24ain o Ebrill i 1,285.
Cartrefi gofal
Yn ystod y pandemig hyd yma, mae 310 o farwolaethau coronafeirws ychydig dros 24% - wedi bod mewn cartrefi gofal.
Ar draws Cymru a Lloegr roedd 354 yn llai o farwolaethau o'i gymharu a'r wythnos flaenorol.
Ond mae'r cyfanswm o farwolaethau yn y ddwy wlad yn dal i fod 11,539 yn uwch na'r cyfartaledd dros bum-mlynedd.
Mae'r ONS yn cyhoeddi ffigyrau bob wythnos, sy'n cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl, ac maen nhw'n cynnwys achosion lle mae meddygon yn amau Covid-19.
O gymharu mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru ond yn cyfri'r marwolaethau lle mae 'na brawf meddygol bod claf wedi marw ar 么l cael eu heintio.
Pwy sydd 芒 risg uchel?
pobl ag imiwnedd isel;
pobl sy'n dioddef o gyflyrrau ar eu hysgyfaint, neu broblemau a'u calon;
cleifion sydd wedi cael trawsblaniad diweddar;
pobl sydd a mathau arbennig o ganser, fel canser y gwaed, fogfa difrifol;
pobl sydd a chyflwr ffibrosis systig;
cleifion sydd ag afiechyd yn un o'u horgannau (afu, aren, neu galon ee);
rhai cyflyrau eraill anarferol a chleifion sy'n cael rhai therapiau cyffuriau;
menywod beichiog neu blant sydd a afiechyd difrifol ar y galon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020