Covid-19: Caniat芒d i chwaraeon proffesiynol ailddechrau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd athletwyr a chlybiau proffesiynol yng Nghymru yn cael ailddechrau ymarfer.
Daw'r cyhoeddiad wrth i glybiau p锚l-droed Abertawe a Chaerdydd baratoi i ailddechrau sesiynau hyfforddi yr wythnos nesaf.
Roedd y clybiau wedi gofyn am eglurder gan aelodau'r Senedd yngl欧n 芒 pha weithgareddau a ganiateir yn eu canolfannau ymarfer o dan reoliadau Cymreig.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd yn bwriadu rhwystro Abertawe a Chaerdydd rhag ailddechrau'r tymor ym Mhencampwriaeth Lloegr.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda Chynghrair B锚l-Droed Lloegr yn ogystal 芒 chyfarwyddwr criced Morgannwg, Mark Wallace, yngl欧n 芒 dychwelyd i ymarfer.
Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas mewn datganiad ysgrifenedig y gallai'r rhai hynny oedd yn ennill eu bywoliaeth o chwaraeon proffesiynol ailddechrau ymarfer gan lynu at reoliadau Cymru.
"Mae ein campwyr chwaraeon proffesiynol ar y lefel uchaf o chwaraeon a byddant yn ceisio dychwelyd i hyfforddiant mor gynnar 芒 phosibl," meddai.
"Dyma eu proffesiwn; maen nhw'n ennill bywoliaeth o chwaraeon - y maes chwaraeon yw eu gweithle.
"Mae rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio gartref lle bo hynny'n bosibl; lle nad yw hynny'n bosibl, rhaid i gyflogwyr gymryd pob mesur rhesymol i gydymffurfio 芒'r ddyletswydd ymbellhau corfforol.
"Mewn cyd-destun chwaraeon proffesiynol, mae hyn yn golygu y gall hyfforddiant ar gyfer ein campwyr chwaraeon proffesiynol barhau ar yr amod y gall y clybiau - fel cyflogwyr - gymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle, p'un a yw hynny ar gae hyfforddi neu mewn stadiwm."
Roedd Abertawe a Chaerdydd wedi bod yn bwriadu dychwelyd i ymarfer dydd Llun gyda profion ar gyfer coronafeirws yn rhan o brotocolau y Gynghrair B锚l-Droed.
Cadarnhaodd Abertawe y bydd eu chwaraewyr yn cael eu profi ddydd Gwener gyda'r rheolwr Steve Cooper yn pwysleisio mai "diogelwch oedd y flaenoriaeth".
Ychwanegodd Cooper y byddai'r clwb yn trafod gyda'r chwaraewyr dros y penwythnos ac y bydden nhw'n parchu pryderon unrhyw chwaraewyr a'r rhai fyddai'n penderfynu peidio dychwelyd o ganlyniad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio ailddechrau ymarferion "yn gam cyntaf pwysig, a allai arwain at ailddechrau chwaraeon cystadleuol. Bydd chwaraeon yn ailddechrau yn y dyfodol, y tu 么l i ddrysau caeedig i ddechrau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020