Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen gwirfoddolwyr o Gymru i brofi brechlyn Covid-19
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Bydd 500 o wirfoddolwyr o Gymru yn cael eu recriwtio i brofi brechlyn newydd yn erbyn coronafeirws.
Mae'r cyffur, sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen, yn un o nifer o frechlynnau sy'n cael eu datblygu ledled y byd.
Bydd y gwirfoddolwyr yng Nghymru yn gweithio ym meysydd gofal ac iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dwedodd Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai'r brechlyn arwain at ffordd allan o'r pandemig.
Cafodd y gwirfoddolwyr cyntaf eu pigiadau ym mhrofion brechlyn Prifysgol Rhydychen fis diwethaf, ac mi fydd 10,000 o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio i gyd.
Mae'r ymdrech i gael gwirfoddolwyr yng Nghymru yn cael ei chydlynu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 oed ac yn gweithio yn y meysydd iechyd a gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn yn cynnwys ysbytai, meddygfeydd, fferylliaeth, ffisiotherapi, gofal cymunedol a meysydd eraill ble mae perygl o ddod i gysylltiad 芒'r firws.
Posibilrwydd na fydd llwyddiant
Ddydd Sul dywedodd llywodraeth y DU iddyn nhw gyrraedd cytundeb i gael 30m o frechlynnau erbyn mis Medi pe bai'r profion yn llwyddiannus, fel rhan o gytundeb am gyfanswm o 100m i gyd.
Mae cwmni fferyllol AstraZeneca wedi dod i gytundeb gyda'r brifysgol a llywodraeth y DU i gynhyrchu a dosbarthu'r brechlyn.
Er gwaetha'r gwaith ymchwil, mae rhai arbenigwyr wedi rhybuddio efallai na fydd brechlyn llwyddiannus byth yn cael ei ddarganfod.
Pan ddechreuodd profion brechlyn Rhydychen ym mis Ebrill hwn oedd y cyntaf yn Ewrop i gael ei dreialu mewn pobl. O'r 800 o bobl a gafodd eu recriwtio i ddechrau, roedd hanner i dderbyn y brechlyn Covid-19 tra byddai'r hanner arall yn derbyn brechlyn a oedd yn amddiffyn rhag llid yr ymennydd ond nid coronafeirws.
Ni fydd gwirfoddolwyr yn gwybod pa frechlyn maen nhw wedi derbyn.