'Dwi di cal llond bol ar awgrymiadau o bethau i 'neud efo'r plant!'

Ffynhonnell y llun, Mari Lovgreen

Os ydych chi wedi cael digon ar gyngor ddefnyddiol neu cwbl ddi-groeso dros yr wythnosau diwethaf am beth i wneud gyda'r plant yn ystod y cyfnod dan glo, mae Mari Lovgreen yma'n rhoi'r byd yn ei le:

Dwi 'di cael gwahoddiad gen 大象传媒 Cymru Fyw i 'sgwennu am sut i ymdopi adref efo'r plant dros hanner tymor ac i rannu syniadau am ffyrdd i'w diddanu.

Yr ymateb cynta' oedd bod isio sgrechian 'Dwi di cal llond bol ar awgrymiadau o bethau i 'neud efo'r plant!!'

Ella bod y lockdown 'ma'n rhoi 'chydig bach o anger issues i fi. Fawr o sioc rili nachdi? Oes ma' 'na lwyth o silver lining i'w gael a dwi'n cyfri fy hun yn lwcus iawn, ond mae'r cyfnod dal yn un anarferol o heriol i ni gyd.

A dwi'n si诺r mai'r peth ola 'da chi isio fel rhiant blinedig ydi rhestr smyg o ryseitiau i bobi efo'ch angylion bach neu 101 o syniadau ar sut i chwarae'n greadigol mewn mwd.

Felly dwi yma i erfyn arna ni rieni'r byd i dr茂o chillio the hell allan 'chydig bach ac iselhau'n safonau LOT.

Da ni'n wynebu sefyllfa hollol extreme - un fydd plant ein plant ni'n dysgu amdano fo'n yr ysgol si诺r o fod; felly dwi'n si诺r 'newch chi gytuno fod jyst bodoli a chadw pawb yn fyw yn hen ddigon. Mae edrych ar 么l ein hunain yn bwysicach nac erioed.

Os ydi'ch plant chi'n ifanc iawn fel rhei fi, dydyn nhw ddim hyd yn oed am gofio'r cyfnod yma heb s么n am be'n union oedden nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd. Dwi'n gwbod fod angen bod yn ofalus efo technoleg - ond ma 'na eithriad i bob rheol, a 'dani'n byw drwy global pandemic.

Felly, os ydi'ch batris chi'n teimlo'n fflat - rhowch sgrin iddyn nhw heb deimlo'n ddrwg. O'n i'n s么n am y silver lining gyna, ac un o'r petha dwi'n fwynhau fwya' ydi ddim gorfod cadw llygad ar y cloc. Dim amser penodol i gael neb yn barod ar gyfer ysgol/ cylch/ gwersi nofio - felly mae 'na le i lacio ar unrhyw batrwm oedd gena ni cynt ac arafu petha reit lawr.

Pam ddim gorwedd yn y gwely tan 10 yn gwylio Cyw, ac aros yn ein pajamas tan amser cinio?

Ffynhonnell y llun, Mari Lovgreen

Os ellwch chi gael amser i'ch hun - hyd yn oed os ydi o jyst yn hanner awr y dydd i fynd am dro ar ben eich hun - gwnewch hynny. Os ydi hyn yn amhosib a bod dim heddwch i'w gael - rhowch eich plant mewn playpen neu o flaen sgrin i allu mwynhau paned o de cry mewn llonydd, eto heb deimlo'n euog.

Mae bachu ffenestri o headspace yn y cyfnod yma'n hanfodol yn fy marn bach i. Os yda chi'n un o'r arwyr sy' hefyd yn gorfod tr茂o gweithio o adref efo'ch plant o gwmpas, mae 'na reswm reit syml dros deimlo'n overwhelmed - ma'r baich o jyglo bob dim jyst yn ormod.

Rhywbeth arall dwi 'di ffeindio sy'n hollol hanfodol ar adegau'n ystod lockdown ydi anwybyddu fy mhlant. Ma hynna'n swnio mor rong ond dwi yma i ddadlau 'i fod o'n iawn!

Yn amlwg ddim os ydyn nhw ar d芒n neu'n boddi - ond os mai jyst general winjo sy'n mynd 'mlaen, mae bendant angen anwybyddu weithia'. Er enghraifft os dwi angen gyrru mlaen efo tasgau boring hanfodol fel golchi dillad - dwi'n cario 'mlaen gan egluro mod i'n brysur.

Dwi bob tro'n teimlo'n well pan dwi'n gallu gweithio drwy'r tasgau 'ma a dwi'n rhoi dau opsiwn i'r plant; ymuno yn yr hwyl (!) a helpu, neu bygran ffwrdd i ddiddanu eu hunan efo un o'r 167,000 tegan sy' gennyn nhw. Os 'di hyn ddim yn gweithio ma'r teli'n mynd n么l 'mlaen am hanner awr bach arall.

'Rhoi ein hunain gyntaf'

Os oes genna ni ddim egni i 'neud dim byd mwy na bodoli ar ambell ddiwrnod - ma raid i ni iselhau ein safonau hyd yn oed ymhellach. Diwrnod diog yn osgoi ein plant gymaint a fedran ni tra mae'n batris ni'n chargo.

Dydi hyn ddim yn golygu'n bod ni'n fethiant fel rhiant, na'n bod ni'n caru'n plant ddim llai (fel fod angen pwyntio hyn allan!!!).

Felly fy nghyngor i am wythnos hanner tymor ydi i ni roi ein hunain gyntaf weithia'. Mynd efo'n m诺ds, a gneud y gorau fedran ni yn dibynnu ar ein batris. Bob bore gofyn y cwestiwn, be dwi am neud i fi heddiw? Ma'n hawdd iawn rhoi'n anghenion ni reit ar waelod y rhestr, a canlyniad hyn os ydach chi fel fi ydi troi mewn i fam flin a dagreuol (a 'chydig bach yn sgeri os dwi'n hollol onest).

Mae'r plant fwy tebygol o gofio awyrgylch ddrwg na gweithgareddau da, felly mae angen bod yn ffeind iawn efo'n hunain.

Ffynhonnell y llun, Mari Lovgreen

Disgrifiad o'r llun, Chwilio am drychfilod

Gan mod i 'di mynd off ar 'chydig bach o rant, dwi'n teimlo ddylwn i gynnwys rhestr o bethau dwi'n 'neud i ddiddanu fy mhlant o bryd i'w gilydd fel mod i oleia'n hanner ateb gofynion yr erthygl. Dyma nhw felly, a 'mond *os da chi yn y m诺d* cofiwch!

  • Chwilio am bethau o gwmpas yr ardd/am dro - trychfilod, blodau gwyllt, unrhyw beth deud y gwir, y plant i gofnodi mewn tabl yr hyn mae nhw'n ffeindio
  • Rhewi teganau mewn d诺r, (nes i ddefnyddio bagiau Ziplock) a rhoi twls iddyn nhw eu torri'n rhydd
  • Chwarae efo d诺r mewn unrhyw ffordd yn hit fan hyn - ffordd dda o'u cael nhw i lanhau'r car neu ffenestri (os yda chi'n ffans o'r streaky brown finish)
  • Awyrennau papur - gweld pwy sy'n gallu eu taflu bellaf
  • Creu cwrs antur o gwmpas yr ardd
  • Chwarae'ch hoff gerddoriaeth tra'n chwarae musical statues/cael disco
  • Bocs bwyd yn yr ardd/o flaen y teledu
  • Mynd i'r bath/cawod mewn siwt nofio a goggles - unrhyw amser o'r dydd

Ffynhonnell y llun, Mari Lovgreen

Dwi'n meddwl fyddan ni yn ein pajamas am lot o'r wythnos yn pigo ar snacs tra'n mwynhau gwylio 'Steddfod yr Urdd ar y teli - peidiwch deud wrtha fi bod diwylliant Cymru ddim yn bwysig!

Welai chi ar yr ochor arall, mewn pyb cartrefol heb y plant preferably.

WE GOT THIS!

Hefyd o ddiddordeb: