大象传媒

Cyfansoddwr o Wynedd yn ennill seremoni gyntaf Eisteddfod T

  • Cyhoeddwyd
Cai DaviesFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd

Cai F么n Davies o Benrhosgarnedd sydd wedi ennill gwobr y Prif Gyfansoddwr yn yr Eisteddfod T eleni.

Mae Cai, 20 oed, yn enw cyfarwydd sydd wedi cystadlu yn yr 诺yl ers ei fod yn ifanc a chael sawl llwyddiant.

Daeth i'r brig am gyflwyno darn pedwarawd llinynnol o dan y ffug enw ZartMo.

Mae'r Eisteddfod T yn cael ei chynnal eleni yn lle Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych, sydd wedi'i gohirio oherwydd coronafeirws.

'Newydd-deb'

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na 2 funud o hyd ar unrhyw thema ac fe wnaeth 21 gystadlu.

Dywedodd y beirniad Eilir Owen Griffiths bod y darn yn "cynnal y gwrandawiad drwyddi draw", a bod yna "newydd-deb" yng ngwaith Cai F么n Davies.

"Beth mae y cyfansoddwr hwn yn llwyddo i wneud yn gelfydd yw cyflwyno llawer o adrannau byr gwrthgyferbyniol a'u datblygu yn effeithiol o fewn 2 funud - mae o'n gyfanwaith.

"Mae'r cyfansoddwr yn amlwg iawn wedi arfer ysgrifennu i linynnau ac yn llwyddo i greu gweadau diddorol a rhannu y syniadau rhwng yr offerynnau yn effeithiol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Astudio Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Bangor mae Cai ar hyn o bryd, ac mae'n aelod o gorau Johns' Boys ac Aelwyd JMJ.

Roedd yn un o'r chwech a fu'n cystadlu yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel y llynedd ar 么l dod i'r brig ym mhrif gystadleuaeth llefaru'r Eisteddfod, ac fe gipiodd y wobr gyntaf mewn tair cystadleuaeth llwyfan dan 21 oed yn 2018.

Y cerflunydd Ann Catrin wnaeth greu'r tlws arbennig ar gyfer y gystadleuaeth eleni.

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Celt John o Ddolgellau, ac yn drydydd roedd Heledd Wyn Newton o Gaerdydd.