Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Labordai a'u staff o dan bwysau
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae'r gwyddonydd sy'n gyfrifol am labordy profi coronafeirws mwya' Cymru wedi disgrifio "aberth" ei d卯m wrth fynd i'r afael 芒'r pandemig.
Jonathan Evans sy'n arwain y ganolfan firoleg arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle cafodd y prawf cyntaf positif am coronafeirws yng Nghymru ei nodi.
Dywedodd fod staff wedi bod yn gweithio 60 i 70 awr yr wythnos wrth brosesu dros 2,500 o brofion y dydd.
Yn y cyfamser dywedodd y nyrs sy'n gofalu am ganolfan brofi yng Nghasnewydd fod "ysbryd da" yn amddiffyn ei staff rhag "llawer iawn o bwysau".
Y newid yn 'rhyfeddol'
Fel y prif wyddonydd biofeddygol yng nghanolfan firoleg arbenigol Cymru yng Nghaerdydd, mae Jonathan Evans wedi arfer gyda gorfod rheoli profi cyson am amrywiaeth o feirysau yn y boblogaeth.
Ers i labordy Caerdydd gynnal ei phrawf coronafeirws positif cyntaf ar 26 Chwefror mae nifer y samplau sy'n cael eu prosesu wedi tyfu yn unol 芒 strategaeth brofi Llywodraeth Cymru.
Mae swabiau sy'n cael eu cymryd o ganolfannau profi, cartrefi gofal a safleoedd profi byrddau iechyd lleol oll yn cael eu hanfon i labordy Caerdydd i'w prosesu.
I ddechrau, dyma oedd yr unig labordy yng Nghymru i gynnal profion ar gyfer coronafeirws, ond bellach mae eraill wedi agor i rannu'r llwyth gwaith.
Cyn i'r pandemig daro Cymru, roedd ei labordy ar ei phrysuraf pan yn prosesu profion ar gyfer clefydau sy'n cael eu trosglwyddo'n rhywiol.
"Cyn Covid, ar ddiwrnod arferol bydde ni'n perfformio 400 o brofion chlamydia. Dyna oedd y nifer fwyaf o brofion y bydde ni'n eu perfformio ar unrhyw ddiwrnod yn y labordy hwn," meddai.
"Yn ystod ffliw moch bydde ni'n profi tua 200 sampl y dydd, ond dim ond ar gwpl o ddiwrnodau oedd hynny.
"Ry'n ni nawr i fyny at dros 2,500 o brofion y dydd ar gyfer [Covid-19] a oedd ond yn bodoli ym mis Ionawr, i adnabod feirws nad oedd yn bodoli cyn mis Rhagfyr.
"Felly mae maint y newid i weithdrefnau a'r systemau ry'n ni wedi gorfod eu datblygu a'u rhoi ar waith i allu cynnig y gwasanaeth yma'n ddiogel wedi bod yn rhyfeddol."
'Penwythnosau ddim yn bodoli'
Er bod staffio wedi cynyddu o 30 i 50 o bobl, mae'r llwyth gwaith enfawr wedi rhoi straen sylweddol ar ei d卯m.
"Galla'i ddim canmol fy staff yn ddigon uchel," meddai. "Gwyliau banc - beth ydyn nhw? Penwythnosau - 'dy nhw ddim yn bodoli mwyach. Ar hyn o bryd mae'r staff i gyd yn gweithio chwech neu saith diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 60 a 70 awr."
Dywedodd Mr Evans fod llawer o'i d卯m cymharol ifanc wedi symud i Gaerdydd i weithio yn y labordy, a'u bod yn profi'r un cyfyngiadau 芒 phawb arall pan nad oedden nhw ar shifft.
"Dylai un o'n cydweithwyr fod wedi bod yn dathlu Eid dim ond cwpl o ddyddiau yn 么l gyda'i theulu, ond nid oedd modd iddi wneud hynny am ei bod hi yn y gwaith ac yn gorfod gwneud shifft 12 awr, yn lle bod adref gyda'r teulu yn Blackburn. Ar adegau fel hyn ry'ch chi'n sylweddoli'r aberth y mae'r t卯m yn ei wneud er budd pawb."
Ymhlith y samplau sy'n cael eu prosesu gan labordy Caerdydd mae'r rhai a gasglwyd gan staff sy'n gweithio yng nghanolfan profi Casnewydd yn Rodney Parade.
Mae pabell lletygarwch sy'n cael ei defnyddio fel arfer gan noddwyr mewn gemau rygbi a ph锚l-droed wedi cael ei hailosod at ddefnydd staff sy'n prosesu manylion y bobl i ddod i'w profi, tra bod tair ardal benodol wedi'u hadeiladu i gynnal profion ar y bobl hynny sy'n cyrraedd mewn car.
"Ry'n ni gyd yn gweithio'n galed iawn, iawn i gyflawni'r [system brofi]," meddai Amanda Luther, y prif nyrs, "mae'n bwysau ofnadwy, mae gofyn i ni gyflawni llawer iawn gyda nifer y staff sydd gyda ni.
"Ond oherwydd bod mor芒l mor dda a bod pawb yn cefnogi ein gilydd ry'n ni'n dod drwyddo mor dda ag y gallwn ni."
Gweinyddu'r system archebu prawf yn Rodney Parade mae Holly Taylor, ar 么l gweithio yn swyddfa apwyntiadau'r ysbyty cyn hynny.
"Fy ngwaith yma yw archebu apwyntiadau a phrosesu pobl sydd wedi eu cyfeirio aton ni gan sefydliadau sydd am i'w staff gael eu profi.," meddai.
"Ry'n ni'n gweithredu saith diwrnod yr wythnos - mae'n llawn ar y cyfan - dy'ch chi ddim yn sylweddoli bod amser yn mynd heibio.
"Does neb wedi arfer 芒'r math yma o beth. Ond dim ond ym mis Tachwedd y gwnes i ddechrau gweithio i'r GIG felly dwi wedi fy ngollwng yn y pen dwfn!"
Er gwaetha'i bod wedi'i lleoli yn y ganolfan brofi, dywedodd Ms Taylor nad oedd hi bob amser yn gwerthfawrogi ei bod ar reng flaen yr ymateb i'r pandemig.
"Ry'ch chi'n anghofio, ond yn teimlo cyfrifoldeb enfawr hefyd. Mae'n braf ac yn werth chweil pan ewch chi adref a ry'ch chi'n meddwl 'dwi wedi gwneud hyn i gyd er lles yr holl bobl 'ma'. Ond mae pawb yma yn gweithio fel t卯m, mae'r mor芒l bob amser yn uchel."
Mae rhai o'r bobl y bu'n rhaid iddi gysylltu 芒 nhw i fynychu'r prawf wedi bod yn s芒l iawn.
"Ry'n ni wedi cael rhai pobl bryderus iawn, dan straen sylweddol ar ben arall y ff么n. Pobl nad oedden nhw'n swnio'n dda iawn o gwbwl. Ond dyna pam ry'n ni yma yn dife? Er mwyn archebu lle iddyn nhw, sicrhau prawf iddyn nhw fel eu bod nhw'n barod i fynd yn 么l i'r gwaith ar 么l gwella."
Mae'r system brofion cenedlaethol yn cael ei goruchwylio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r corff yn cydnabod y bu'n rhaid addasu'r cynllun oedd yn ei le ar gyfer profi yn ystod pandemig yn gyflym iawn.
Dywedodd Dr John Bolton, cyfarwyddwr gwella ansawdd a diogelwch cleifion, fod y ddogfen wreiddiol ond wedi para am "ychydig oriau".
"Roedd 'na gynllun ar y dechrau ond wnaeth e ddim goroesi mwy na sawl awr. Mae'r cynllun hwnnw wedi gorfod esblygu dros gyfnod o ddyddiau wrth i'r pandemig newid, wrth i ni addasu ac wrth i'r haint symud ledled y wlad.
"Fe newidiodd y dealltwriaeth yngl欧n 芒 lle fydden ni'n gosod safleoedd, a mae wedi esblygu wrth i ni fynd ymlaen."
Staff yn 'aberthu llawer'
Dywedodd Dr Bolton fod yr ymateb i'r pandemig wedi bod yn straen mawr ar staff labordai profi.
"Mae'n deg i ddweud y bydde llawer o'r timau'n dweud eu bod yn eithaf blinedig erbyn y pwynt yma, oherwydd mae'r ymdrech wedi bod yn ddwys. Mae wedi golygu symud yn gyflym, iawn, iawn a mae'r newidiadau ry'n ni wedi gorfod eu rhoi ar waith dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn waith caled iawn.
"Ry'n ni wedi cael timau sydd wedi bod fyny yng ngogledd Cymru a wedi gadael eu teuluoedd ers sawl diwrnod i gefnogi'r gwaith o sefydlu safleoedd profi. Maen nhw wedi aberthu llawer iawn wrth geisio cael y canolfannau hyn ar waith."
Bydd y galw am brofion ond yn cynyddu wrth i gynllun Prawf, Olrhain, Amddiffyn newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym ym mis Mehefin.