Galw ar bobl Wrecsam i gau ffenestri a drysau wedi t芒n

Ffynhonnell y llun, RICHARD ULRICH

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwydd toc wedi 19:00 ddydd Mercher

Mae trigolion Wrecsam wedi cael gorchymyn i gau eu ffenestri a'u drysau yn dilyn t芒n mawr mewn safle tirlenwi yno.

Roedd mwg du trwchus i'w weld yn llifo i'r awyr wrth i'r diffoddwyr t芒n fynd i'r afael 芒 fflamau yn Chwarel Hafod, Rhiwabon nos Fercher.

Ond mae newid yng nghyfeiriad y gwynt yn golygu fod y mwg bellach yn effeithio ar Wrecsam ei hun.

Aeth pedwar criw i'r afael 芒'r digwyddiad toc wedi 19:00 ddydd Mercher.

Mae dros 30 o ddiffoddwyr t芒n yn parhau ar leoliad, ac mae ffyrdd wedi'u cau.

Fe ddywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru ar Facebook bod y cyngor i gau drysau a ffenestri wedi cael ei roi oherwydd y "mwg gwenwynig oedd yn yr aer".

"[M]ae diffoddwyr t芒n yn dal i ddelio gyda'r digwyddiad ac oherwydd bod cyfeiriad y gwynt wedi newid mae'r mwg nawr yn effeithio ar dref Wrecsam, a chynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau," meddai.

Dywedodd Jeff Hall, pennaeth safle'r digwyddiad, y bydd diffoddwyr ar y safle "am y 24 awr nesaf yn 么l pob tebyg".

Bydd y digwyddiad yn destun ymchwiliad maes o law.