大象传媒

Haeddu seibiant? Beth am driniaeth harddwch cartref?

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn gyfnod hir o dan glo, ac mae'n cyrff a'n meddyliau yn si诺r o fod yn teimlo'r straen.

Felly, dyma ambell i air o gyngor gan y therapydd cyfannol a harddwch o Lanrug, Lisa Jones, am sut i roi tr卯t bach i'ch hunain, yn defnyddio beth sydd gennych chi adref.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones

Adweithdeg (reflexology) i'r dwylo

Bydd y pwynt adweithdeg yma yn helpu i leihau straen neu bryder a chreu teimlad o dawelwch a lles.

Mae pwynt y solar plexus mewn pant bach ychydig uwch na chanol cledr eich llaw.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones

Rhowch bwysau cymedrol i ddyfn am ychydig eiliadau wrth anadlu i mewn ac allan yn araf.

Ailadroddwch ar y llaw arall. Gallwch wneud hyn mor aml 芒 sydd ei angen.

Masg wyneb afocado - ar gyfer croen arferol/aeddfed

Bydd y masg yma yn rhoi hwb i allu'r croen i gynhyrchu collagen naturiol, yn ogystal 芒 hydradu'r croen.

Cynhwysion

  • 1 afocado

  • 1 moronen wedi ei thorri a'i berwi nes ei bod yn dyner

  • 1/2 cwpan o hufen dwbl

  • 2 lwy fwrdd o f锚l

Mewn powlen cymysgwch gnawd yr afocado a'r foronen gyda'i gilydd, ac ychwanegwch y m锚l. Unwaith fydd popeth wedi ei gymysgu, ychwanegwch yr hufen yn araf tan i chi gyrraedd trwch fydd yn aros ar y wyneb.

Golchwch a sychwch eich wyneb. Mae angen taenu'r masg ar y wyneb yn ofalus gan osgoi'r llygaid a'r gwefusau. Ymlaciwch am 15 munud, yna'i dynnu i ffwrdd gan ddefnyddio lliain wyneb a d诺r cynnes, yna sychu'r wyneb yn drwyadl.

(Os nad oes gennych chi afocado, gallwch gymysgu 1 banana, 1 llwy fwrdd o f锚l ac 1 llwy fwrdd o sudd lemwn i greu masg wyneb sydd hefyd yn addas ar gyfer croen arferol/aeddfed.)

Sgrwb traed cnau coco a leim

Bydd y driniaeth yma yn gadael eich traed yn llyfn ac yn teimlo'n ffres.

Cynhwysion

  • 4 llwy fwrdd o siwgr

  • 2 lwy fwrdd o olew cnau coco

  • Sudd a chroen 1 leim

  • 1 leim wedi ei dorri

Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen a'u gosod i un ochr.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones

Dewiswch bowlen/twb sy'n ddigon mawr i ffitio'r ddwy droed, gyda 'chydig o le i'w sbario. Ychwanegwch dd诺r cynnes iddo (byddwch yn ofalus i beidio llosgi) a'r sleisys o leim.

Sociwch eich traed am bum munud.

Tynnwch un droed allan a'i dylino (massage) gyda'r sgrwb am ychydig funudau, gan roi sylw arbennig i fannau sych ac osgoi unrhyw glwyfau agored. Yna rhowch y droed yn 么l yn y d诺r ac ailadrodd gyda'r droed arall.

Golchwch y sgrwb i ffwrdd yn y d诺r a sychu eich traed gyda thywel gl芒n.

Sgrwb corff sitrws

Mae hwn yn sgrwb exfoliator naturiol i'r corff sy'n llawn fitamin C, a fydd yn cael gwared ar groen sych a gadael y croen yn edrych yn llyfn a llachar.

Cynhwysion

  • 3 chwpan o siwgr (gwyn neu frown)

  • 3/4 cwpan o olew coco, almwn neu olewydd (olive)

  • Sudd o 1 lemwn

  • Croen 2 lemwn

Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen. Gall hwn gael ei gadw am wythnos mewn cynhwysydd gyda chaead.

Rhowch dywel gl芒n ar y llawr (gwell gwneud hyn yn yr ystafell 'molchi), gwlychwch eich dwylo a thylino'r sgrwb ar hyd y corff, gan roi sylw arbennig i unrhyw fannau sy'n sych ofnadwy gan symud eich dwylo mewn si芒p cylch.

Mae faint ydych chi'n ei wasgu yn dibynnu ar beth sy'n addas i chi - er enghraifft, byddwch yn fwy tyner os oes gennych chi groen sensitif.

Ewch i mewn i'r gawod a thylino ychydig mwy cyn ei olchi i gyd i ffwrdd (byddwch yn ofalus - gall yr olew achosi arwynebau llithrig), a sychu gyda thywel gl芒n.

Tylino pen Indiaidd

Mae hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n teimlo straen neu'n dioddef gyda chur pen. Gallwch wneud hyn i chi'ch hun neu i berson arall yn y cartref.

Eisteddwch i lawr yn gyfforddus a chau eich llygaid, a chymerwch dri anadl dwfn cyn cychwyn.

Gan ddefnyddio'r ddwy law, defnyddiwch flaenau dau fys i rwbio bob ochr i'ch talcen (temple) mewn symudiad cylch ysgafn, am un munud.

Wedyn wrth ddefnyddio'r ddwy law eto, defnyddiwch y bysedd i gyd i dylino croen y pen mewn cylchoedd, gan ddechrau yn y tu blaen a gweithio eich ffordd o amgylch y pen am ddau funud.

Gorffennwch drwy ddefnyddio'r bysedd i gribo o linell y gwallt i lawr tuag at gefn y pen. Ailadroddwch hyn 10 gwaith. Cymerwch dri anadl dyfn i orffen.

Masg wyneb ceirch - ar gyfer croen sych/sensitif

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sut ddylai'r masg uwd edrych

Mae'r masg yma'n berffaith i leddfu unrhyw fannau sych neu boenus ar y croen.

Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd o f锚l

  • 2 llwy fwrdd o iogwrt naturiol

  • 2 lwy fwrdd o geirch (wedi ei falu'n bowdr)

Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen.

Golchwch a sychwch eich wyneb. Mae angen taenu'r masg ar y wyneb yn ofalus gan osgoi'r llygaid a'r gwefusau. Ymlaciwch am 15 munud, yna'i dynnu i ffwrdd gan ddefnyddio lliain wyneb a d诺r cynnes, yna sychu'r wyneb yn drwyadl.

Hefyd o ddiddordeb: