Covid-19: Ymestyn cytundeb ysbyty maes Stadiwm Principality

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, wedi cadarnhau y bydd cytundeb ysbyty maes Stadiwm Principality yn para tan yr hydref.

Cafodd Ysbyty'r Ddraig yng Nghaerdydd ei sefydlu er mwyn lleddfu'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Roedd y cytundeb gwreiddiol mewn grym tan 10 Gorffennaf ond mae e bellach wedi'i ymestyn tan o leiaf fis Medi.

Cafodd cleifion cyntaf yr ysbyty, sydd 芒 1,500 o welyau, eu derbyn ar 29 Ebrill.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn rhentu'r stadiwm i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae'r ysbyty wedi ei sefydlu er mwyn lleddfu pwysau ar ysbyty mwyaf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o'r fideo, Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality

Wedi trafodaethau rhwng yr Undeb, Y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru nid oes dyddiad terfynol pendant wedi ei osod yn y cytundeb newydd.

"Fe wnaethon ni gytuno gyda'r Gwasanaeth Iechyd a Llywodraeth Cymru y byddai'r cytundeb yn cael ei ymestyn tan yn gynnar yn yr hydref," meddai Gareth Davies.

"Ry' ni eto i gytuno ar yr union fanylion."

Ychwanegodd Davies os byddai galw am yr ysbyty maes yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yna ni fyddai'n bosib cynnal gemau rygbi yno ac y byddai rhaid ystyried meysydd eraill.

Mae Cymru fod i groesawu Seland Newydd, De Affrica, Fiji a'r Ariannin ym mis Tachwedd ac mae'n bosib y bydd y gemau hynny tu 么l i ddrysau caeedig.