Diwydiant celfyddydau Cymru i 'golli pobl dalentog'
- Cyhoeddwyd
Gallai llawer o berfformwyr ac artistiaid ifanc gael eu colli i'r diwydiant celfyddydau os yw Llywodraeth Cymru'n "anwybyddu" y sector ystod y pandemig coronafeirws.
Dyna'r rhybudd gan rai o fewn y diwydiant, gyda phryder y bydd llefydd fel theatrau'n ei chael hi'n anodd ailagor hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Sian Gwenllian fod perygl y gallai'r diwydiant "golli pobl dalentog" wrth i'r cyfnod cloi barhau os nad oedd rhagor o gefnogaeth ariannol yn cael ei gynnig.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi darparu 拢18m er mwyn helpu'r sector yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys arian i wyliau fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
'Perygl o ddim diwydiant o gwbl'
Gyda'r cyfyngiadau yn golygu bod canolfannau a lleoliadau celfyddydol yn parhau ar gau, mae nifer o sefydliadau o fewn y diwydiant eisoes wedi rhybuddio am effaith y wasgfa ariannol.
Ond dywedodd Ms Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, y dylai'r sector gael ei weld fel un allai "helpu Llywodraeth Cymru i gyfleu ei negeseuon allweddol" yn hytrach na bod yn fwrn ariannol.
"Mae s卯n gelfyddydol Cymru yn wahanol iawn i un Lloegr, a hoffwn weld Cymru yn arwain y ffordd ac yn defnyddio'n cryfderau a'n diwydiannau creadigol i'n helpu i ddod trwy effaith negyddol cyfnod maith o gloi," meddai.
Ychwanegodd: "Os na wnawn roi'r celfyddydau creadigol wrth galon mentrau, a rhoi rhan iddynt chwarae yn ystod y pandemig, mae arna'i ofn ein bod mewn perygl o golli pobl dalentog, ac y mae hyn yn rhy bwysig i'w anwybyddu."
Yn 么l cyfarwyddwr artistig G诺yl Gorawl Ryngwladol Cymru, Eilir Owen Griffiths, mae'r pandemig wedi golygu "ansicrwydd" i berfformwyr ifanc ac mae perygl y gallen nhw gael eu colli i'r diwydiant os nad oes cefnogaeth yn cael ei gynnig.
"Po hwyaf y bydd y cyfyngiadau ar waith, mwyaf yw'r perygl o beidio 芒 chael diwydiant celfyddydau o gwbl ar ddiwedd y pandemig," meddai Mr Griffiths, sydd hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod.
"Hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio i ganiat谩u i bobl ymgynnull, fydd theatrau ddim yn gallu agor yn syth oherwydd yr oedi cyn i'r cynnwys ddechrau ymddangos eto."
Ychwanegodd Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na n脫g, y dylai'r celfyddydau gael "lle wrth y bwrdd" yn yr ymateb i'r pandemig.
"Gwyddom pa mor rymus yw adrodd stor茂au, a gallai diwydiant y celfyddydau chwarae rhan wirioneddol bwysig i helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd a chyfleu'r neges y gallwn ddod trwy hyn gyda'n gilydd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod r么l bwysig y celfyddydau" a'u bod eisoes wedi darparu 拢18m ar gyfer sectorau diwylliannol, creadigol a chwaraeon.
"Mae hyn yn cynnwys Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chyllid cymorth ar frys i'n sefydliadau lleiaf, a mwyaf bregus," meddai.
"Rydyn ni hefyd wedi darparu dros 拢800,000 er mwyn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i barhau eu busnesau a pharatoi ar gyfer digwyddiadau'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018