Aled Hall: Trwy lens y camera
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr opera, Aled Hall, ar hyn o bryd adre ar ei fferm yn Nolgran ger Pencader, Sir Gaerfyrddin. Ar ddechrau'r cyfnod ynysu, daeth yn 么l o Lundain, lle bu'n ymarfer yn y T欧 Opera Cenedlaethol yn Covent Garden.
I gadw'n bositif mewn cyfnod o ansicrwydd am ei yrfa fel canwr proffesiynol, dechreuodd Aled Hall dynnu lluniau o gwmpas ei fferm. Erbyn hyn, mae ei luniau yn denu llawer o ymateb ar ei gyfrif.
"Wi'n lwcus bo' fi'n byw lle ydw i. Bob bore a nos mae'r golau a'r olygfa yn hollol wahanol."
"Mae'r ffotograffiaeth wedi mynd 芒'n ddileit i yn ystod y lockdown. Mae'n cadw'r iechyd meddwl yn bositif a rhoi routine i fi. Cyn hyn ro'n i'n ymarfer ar gyfer opera yn Covent Garden yn Llundain, ac o'n i fod yn gweithio yno tan fis Chwefror nesaf. Ond mae'r gwaith wedi ei ganslo a sai'n gweld ni'n dechrau eto ym mis Medi.
"Mae'n dipyn o boen meddwl ar hyn o bryd a does dim cliw gyda fi pryd fyddai n么l ar y llwyfan."
"Fe brynes i'r camera dwi'n ei ddefnyddio i'r ferch rai blynyddoedd yn 么l, mae hi'n dda yn tynnu lluniau. Dwi wedi dechre cael blas arni, er sai'n ffotograffydd o gwbwl ac yn deall dim am dynnu lluniau. Dwi wedi bod ar y we i drio gwella fy hunan.
"Dwi lan am bump y bore. Dim ond cerdded dau led cae a dwi'n gweld yr olygfa yma o'r haul dros fynydd Llanllwni am gyfeiriad Alltwalis."
"Mae'r cyfnod yma wedi neud i fi werthfawrogi eto beth sy' o'n hamgylch ni."
"Mae'r golygfeydd yn mynd 芒 fi n么l i'm mhlentyndod. Pan o'n i'n arfer codi'n fore i odro, bydden i'n gweld boreau fel hyn yn aml. Ond y dyddie yma gan mod i'n byw yn Llundain am saith i wyth mis o'r flwyddyn, dwi ddim yn gweld hyn."
"Pan ti'n cael Y llun, ti'n cael gwefr. O'n i'n digwydd pasio'r cae, a gweld y ddafad a meddwl mae'n rhaid i fi dynnu'r llun yma. Es i'n ecseited i gyd!"
"Dwi'n dwli ar y lleuad, weithie dwi mas tan dri o'r gloch y bore i gael y golau iawn."
"Mae'n biwtiffwl i fod mas o dan y lloer. Dwi'n teimlo yn lwcus iawn i fod fan hyn, yn ystod y cyfnod yma."
"Ni wedi bod yn lwcus gyda'r tywydd, ni'n ei gymryd yn ganiataol fel arfer. Ond pan mae'r tywydd yn troi, mae'r lluniau yn gallu bod yn fwy dramatig a diddorol."
"Gwneud hyn i fi fy hunan ydw i. Dwi wedi postio llun ar fy nghyfrif Twitter bob bore a nos ers deg wythnos a mae pobl wedi dod i ddisgwyl nhw nawr."
"Dwi wrth fy modd yn edrych lawr at arfordir Sir Benfro tua'r gorllewin. Mae rhywbeth yn wahanol bob tro."
"Bob y ci defaid ar y ffarm yw hwn. Mae'n neis bod y teulu i gyd adre' ar hyn o bryd. Mae fy efeilliaid Elen a Dan wedi gorffen eu blwyddyn gyntaf yn y coleg yng Nghaerdydd ac Abertawe, a wedi dod n么l fan hyn cyn y lockdown."
"Dy'n ni ddim wedi ffarmo fan hyn ers 15 mlynedd, ni'n rhentu'r caeau a mae Mam a Dad yn byw yn y t欧, ond mae dal rhai anifeiliaid o gwmpas y lle."
"Mae pobl wedi bod yn garedig iawn am y lluniau ac yn licio eu gweld nhw. Mae'n rhoi rhyw fath o oleuni."
Hefyd o ddiddordeb: