Cymdeithas Cerdd Dant yn gohirio'r 诺yl flynyddol
- Cyhoeddwyd
Mae G诺yl Cerdd Dant 2020 wedi ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.
Roedd yr 诺yl i fod i gael ei chynnal yn Llanfyllin, Powys, ar 14 Tachwedd. Mae trefnwyr G诺yl Cerdd Dant Bro Nansi yn dweud y byddai "unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn gwbl anghyfrifol."
Mae'r 诺yl flynyddol, gafodd ei chynnal yn Llanelli'r llynedd, yn denu cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru.
Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod rhithiol arbennig o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ddydd Sadwrn.
Mae'r mudiad nawr yn ystyried y posibilrwydd o gynnal cystadlaethau rhithiol eleni.
Mae cyfarfod blynyddol y gymdeithas oedd i'w gynnal yng Nghanolfan Bro Cernyw, Llangernyw ar 10 Hydref hefyd wedi ei ohirio.
Dywedodd Llio Penri, cadeirydd pwyllgor gwaith y gymdeithas fod y penderfyniad yn un unfrydol ac y "byddai unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn gwbl anghyfrifol.
"Iechyd a diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth nawr.
"Yn y cyfamser mae'r posibiliadau drwy gyfryngau rhithiol yn gynhyrfus ac ar waith".
Meddai John Eifion Jones, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant:"
"Trist iawn yw gorfod gohirio'r 糯yl, ond doedd dim dewis arall.
"Mae gennym gyfrifoldeb a dyletswydd gofal tra'n trefnu digwyddiad fel hyn, i sicrhau diogelwch pawb fyddai'n debygol o fynychu'r 糯yl.
"Yn anffodus, o dan yr amgylchiadau presennol, nid yw hynny yn bosib.
"Mae wedi cymryd dros hanner can mlynedd i gael yr 糯yl Cerdd Dant yn 么l i Sir Drefaldwyn, felly fydd disgwyl blwyddyn arall ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth."
LLIF BYW: Y diweddaraf ar 3 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020