Drakeford eisiau canlyniadau mwy o brofion o fewn 24 awr
- Cyhoeddwyd
Mae'n "uchelgais" gan Lywodraeth Cymru i brosesu profion coronafeirws ynghynt, yn 么l y Prif Weinidog.
Mae ymgynghorwyr gwyddonol y llywodraeth yn dweud bod "angen canlyniadau profion o fewn 24 awr" ar gyfer y system olrhain "mwyaf llwyddiannus".
Ond ar hyn o bryd llai na dau draean o brofion yng Nghymru sy'n cael eu dychwelyd o fewn 24 awr.
Dywedodd Mr Drakeford ar raglen Politics Wales y byddai cynyddu cyflymder canlyniadau yn golygu bod y rheiny sy'n cael prawf negatif yn gallu dychwelyd i'r gwaith cyn gynted 芒 phosib.
'Capasiti am 9,500 o brofion'
Yn 么l ffigyrau swyddogol, ar 31 Mai dim ond 62.3% o brofion coronafeirws mewn ysbytai gafodd ganlyniad o fewn 24 awr.
Roedd y ffigwr yn gostwng i 57.5% ar gyfer profion mewn canolfannau ble mae modd gwneud prawf o'ch cerbyd, a 55.5% ar gyfer canolfannau eraill sy'n cynnal profion.
"Mae gennym gapasiti i wneud dros 9,500 o brofion yng Nghymru," meddai Mr Drakeford.
"Ry'n ni'n defnyddio labordai yn Lloegr hefyd. Ry'n ni'n gwneud tua 3,000 o brofion y dydd ac mae hynny'n golygu ein bod yn gallu gwneud mwy o'r profion, yn gynt.
"Ein huchelgais yw cael cynifer ohonyn nhw 芒 phosib wedi'u cwblhau o fewn 24 awr fel y gall y rheiny sydd ddim yn profi'n bositif dychwelyd i'r gweithlu."
Ailystyried cyfyngiadau lleol
Fe wnaeth Mark Drakeford hefyd ddweud y gellid cyflwyno cyfyngiadau lleol yn y dyfodol.
"Hyd at nawr mae ein strategaeth wedi bod yn seiliedig ar wneud popeth ar lefel genedlaethol, ac mae rhesymau da iawn dros hynny," meddai.
"Ond yn y dyfodol os yw patrwm coronfairws yn newid fel ein bod yn gweld nifer o achosion mewn ardal benodol... mae'n bosib y byddai'n well delio 芒 hynny yn lleol."
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, nad oedd Cymru'n ystyried gosod cyfyngiadau lleol am y gallai rheolau gwahanol mewn llefydd gwahanol "greu dryswch mawr".
Pan ofynnwyd i Mr Drakeford pam fod y llywodraeth wedi newid ei safbwynt, dywedodd: "Os ydy'r patrwm yn newid i fod yn nifer o achosion mewn un ardal, byddwn yn ei daclo yn lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020