大象传媒

'Dim digon o amser i ailagor ysgolion' medd undeb

  • Cyhoeddwyd
addysgFfynhonnell y llun, PA Media

Mae undeb Unison Cymru wedi dweud nad oes gan ysgolion ddigon o amser i baratoi ar gyfer ailagor ar 29 Mehefin.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor dosbarthiadau yn ddiweddarach dydd Mercher, ond dywed yr undeb y dylai ysgolion gael mwy o amser i baratoi ar gyfer cam mor sylweddol.

Dydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai holl ddisgyblion cynradd Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf wedi'r cwbl.

Dywedodd undeb athrawon UCAC yr un diwrnod fod cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn peri gormod o risg i aelodau staff, gan alw am gau'r ysgolion tan fis Medi.

Mewn datganiad cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r canllawiau i ysgolion ddydd Mercher, dywedodd Rosie Lewis, o Unison Cymru: "Dim ond dwy wythnos a hanner sydd gan ysgolion i ddeall y canllawiau gweithredu hyn a rhoi cynlluniau mewn lle i sicrhau diogelwch a lles y gweithlu a disgyblion ar draws Cymru, ac rydym yn bell o fod wedi cael ein argyhoeddi fod hyn yn ddigon hir.

"Ni ddylem fod wedi bod yn y sefyllfa ble cafodd dyddiad ailagor ysgolion ei gyhoeddi cyn i'r canllawiau gael eu cyhoeddi.

"Rydym yn barod yn gweld nifer o awdurdodau lleol yn cymryd materion i'w dwylo eu hunain gan wthio ymlaen gyda chynlluniau i ailagor ysgolion.

"Sut all hyn hyd yn oed fod yn bosib pan nad yw'r canllawiau ar gael tan heddiw? Y peth olaf yr ydym ei angen yn yr argyfwng presennol ydy 22 math gwahanol o drefn dychwelyd i ysgolion ar draws Cymru."

Profiad Lloegr

Ychwanegodd: "Does dim ond angen i chi edrych ar draws y ffin i Loegr i weld pa mor heriol y mae ailagor ysgolion wedi bod a'r cymhlethdodau sydd yn dilyn.

"O gofio am gyhoeddiad y Prif Swyddog Meddygol yr wythnos diwethaf oedd yn nodi y byddai'n well ganddo weld ysgolion yn agor yn Awst, ac ymrwymiad parhaus y Gweinidog Addysg i'r pum egwyddor hanfodol ar gyfer y cam nesaf, rydym yn gynyddol bryderus fod 29 Mehefin yn rhy gynnar.

"Fe fydd Unison yn ystyried y canllawiau yn y dyddiau i ddod ac os ydym yn teimlo nad yw'n cynnig yr amddiffyniad addas i'r gweithlu, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond gwrthwynebu ailagor ysgolion.

"Mae cael y camau nesaf yn gywir yn bwysicach na'u cwblhau'n gyflym", ychwanegodd.