Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drama feicro: Enfys gan Melangell Dolma
Mae Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio ar gynhyrchu cyfres o ddram芒u meicro.
Y gyntaf yn y gyfres yw Enfys sy'n gweld Nick, sy'n dysgu Cymraeg, yn ceisio cwblhau ei dasg gwaith cartref.
Melangell Dolma yw awdur y ddrama feicro. Meddai:
"Ynghanol y cyfnod anodd yma roeddwn i eisiau ysgrifennu darn gobeithiol sydd yn codi calon. Mae'n ymwneud 芒'r cysur rydym ni'n ei gael o fod mewn cyswllt efo pobl er gwaetha'r pellter sydd rhyngom ar hyn o bryd.
"Roeddwn i hefyd wedi fy ysbrydoli gan yr holl enghreifftiau o bobl yn defnyddio'r amser yma i ddechrau dysgu ieithoedd newydd, ac yn benodol y twf sydd wedi bod yn y galw am wersi Cymraeg digidol."
Mae'r dramodwyr a'r cyfarwyddwyr ynghlwm 芒'r prosiect yn rhan o gynllun arbennig Theatr Genedlaethol Cymru.
Dyweddodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, "Mae'r prosiect wedi rhoi cyfle i ddramodwyr newydd i arbrofi gyda drama ar blatfform digidol.
"Mae wedi bod yn gyfle i ni gynnig cyflogaeth hefyd i actorion a chyfarwyddwyr llawrydd mewn cyfnod pan mae gweithwyr theatr hunangyflogedig wedi gweld eu bywoliaeth yn diflannu dros nos, tra bod ein theatrau ar gau, a holl gynlluniau creu theatr byw wedi eu canslo.
"Mae'r syniadau sydd wedi dod i law a'r cynnwys sydd wedi'i greu yn cynrychioli agweddau amrywiol ac amserol iawn sy'n adlewyrchu'r cyfnod chwithig hwn yr ydym ar ei ganol."
Hefyd o ddiddordeb: