大象传媒

Rhybudd bod y diwydiant twristiaeth 'ar fin dymchwel'

  • Cyhoeddwyd
Dinbych-y-pysgodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trefi glan m么r fel Dinbych-y-pysgod bron yn hollol ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth

Mae'r sector twristiaeth yng Nghymru "ar fin dymchwel", yn 么l gr诺p o arweinwyr y diwydiant sy'n galw am gynllun gan y prif weinidog i ailagor.

Twristiaeth ydy ail ddiwydiant mwyaf Cymru - cafodd 拢6.3bn ei wario yma gan ymwelwyr yn 2018.

Mae atyniadau sydd wedi gorfod cau oherwydd coronafeirws yn dweud eu bod wedi cael "dim gwybodaeth yngl欧n ag ailagor".

Mae Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn dweud bod "diffyg gweithredu" gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r llywodraeth yn mynnu fod ailagor y diwydiant "ar flaen ein meddyliau".

Neges 'anhygoel o niweidiol'

Gyda mwyafrif yr atyniadau a busnesau twristiaeth ynghau ers dechrau'r cyfnod clo, a hithau'n aeaf cyn hynny, mae'r diwydiant yn dweud bod angen "eglurder ar frys".

Mae'r gymdeithas yn dweud bod y neges fod "Cymru ar gau" yn un "anhygoel o niweidiol".

Ychwanegodd y bydd polis茂au Llywodraeth Cymru yn "achosi niwed pellach" i'r diwydiant os na fydd newid brys i lacio'r cyfyngiadau.

Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan berchnogion a rheolwyr 60 o atyniadau mwyaf Cymru, fel Rheilffordd Yr Wyddfa, Zip World a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae atyniadau twrisiaeth fel Castell Conwy yn allweddol i economi gogledd Cymru

"Y gwir yw bod nifer o fusnesau ar fin dymchwel," meddai'r llythyr.

"Bydd yr effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar swyddi yn sylweddol yn syth, ond hefyd am flynyddoedd i ddod."

'Paratoi'r ffordd' i ailagor

Mae arweinydd Cyngor Conwy hefyd wedi ysgrifennu at y prif weinidog yn gofyn iddo "baratoi'r ffordd" i fusnesau twristiaeth ailagor.

Mae'r Cynghorydd Sam Rowlands yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried twristiaeth yn yr adolygiad nesaf ar lacio'r cyfyngiadau ar 18 Mehefin.

Mae'n rhybuddio "os na fydd busnesau twristiaeth yng Nghonwy a gweddill Cymru yn gallu masnachu'r haf hwn, ni fydd llawer ohonynt yn goroesi".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim amserlen eto yngl欧n 芒 phryd y bydd bwytai yn cael ailagor yn 么l yr arfer

Mae tua 70 o fwytai a busnesau bwyd annibynnol hefyd wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru i achub y sector hwnnw.

Mae'r casgliad o fusnesau bwyd - o gwmn茂au bychan i gogyddion seren Michelin - wedi ysgrifennu at Mark Drakeford gyda rhestr o argymhellion.

Maen nhw'n galw am "amserlen glir" a chael strategaeth mewn lle ar gyfer ailagor.

Yn 么l y busnesau mae "pryder gwirioneddol y bydd Cymru'n cael ei gadael ar ei h么l" o'u gymharu 芒 gweddill y DU.

Un o argymhellion y gr诺p yw bod gostwng rheolau ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr i un, a rhoi mwy o gefnogaeth i gwmn茂au gyda chyfraddau busnes.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim eisiau i'r sector fod dan unrhyw amheuaeth - mae ailagor yr economi dwristiaeth yn ddiogel ar flaen ein meddyliau.

"Ry'n ni'n clywed yr hyn mae busnesau'n ei ddweud ac yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n eu hwynebu ond mae'n rhaid i ni gael ein tywys gan y cyngor meddygol a gwyddonol i sicrhau ein bod ond yn codi'r cyfyngiadau pan fo'n ddiogel i wneud hynny.

"Mae'n hanfodol hefyd fod y sector yn ymwybodol ein bod ni, ar y cyd 芒 gwledydd eraill, yn lobio yn ffyrnig am fwy o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU."

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru'n darparu'r pecyn cefnogaeth "mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU" i fusnesau, gan gynnwys rhai twristiaeth a'r diwydiant bwyd.

"Ry'n ni eisoes wedi cyhoeddi cyngor i helpu busnesau baratoi i ailagor yn ddiogel pan fo'r amser yn iawn a byddwn yn cyhoeddi mwy o ganllawiau i'r sector lletygarwch yn yr wythnosau nesaf," meddai.