大象传媒

Heriau sylweddol i glybiau chwaraeon wrth ailagor

  • Cyhoeddwyd
Criw o genod ifanc yn chwarae pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon y bydd rhannu offer a chyfarpar yn ei gwneud hi'n anodd i rai clybiau ailddechrau

Gallai clybiau chwaraeon mewn ardaloedd gwledig "golli cenhedlaeth o chwaraewyr ifanc" yn 么l hyfforddwr criced.

Mae clybiau ar draws Cymru'n edrych ar ffyrdd diogel o ailddechrau ymarfer, unwaith y bydd yr ysgolion wedi ailagor o 29 Mehefin ymlaen.

Mae arolwg gan Chwaraeon Cymru yn dangos bod y cyfnod clo wedi cael effaith sylweddol ar ymarfer corff ymhlith plant, gyda 35% o rai dan 16 oed yn gwneud llai o weithgaredd corfforol nag o'r blaen.

Dywedodd Gareth Lanagan o Glwb Criced Dolgellau y byddai colli tymor o chwaraeon yn cael effaith aruthrol ar glybiau yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Clwb Criced Dolgellau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Lanagan yn hyfforddi chwaraewyr ifanc yng Nghlwb Criced Dolgellau cyn y cyfnod clo

"Rydym wedi gwneud lot o stwff arlein, ond gallai colli tymor o griced mewn ardal wledig fel hon, olygu colli cenhedlaeth o chwaraewyr.

"I ni, os ydyw'n dod i lawr i ddewis rhwng ein hadran iau a'n hoedolion, byddwn yn dod 芒'r adran iau yn 么l yn gyntaf."

Dywedodd Mr Lanagan fod gwahanol ffyrdd o ailddechrau gweithgareddau'r clwb.

"Yn Lloegr maen nhw'n gwneud grwpiau o chwech ar y tro yn y rhwydi criced.

Poeni am rannu offer

"Felly os yw Llywodraeth Cymru'n dilyn yr un broses, dwi'n meddwl y byddwn yn gwneud rhywbeth tebyg i hynny ar y dechrau, efallai rhedeg gwahanol gr诺p o chwech am awr, dros ychydig nosweithiau i wneud yn si诺r fod digon o amser i roi cyfle i gymaint 芒 phosib o'n chwaraewyr.

"Ond mae 'na bryderon am offer hefyd. Mae gan rai plant eu hoffer eu hunain, ond efallai bod teuluoedd eraill methu fforddio'r holl stwff. Felly, mae risg o rannu offer, ac efallai na fydd hynny'n bosibl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae campfeydd a chanolfannau hamdden wedi bod ar gau ers mis Mawrth, ac er bod ymarfer corff tu allan wedi bod yn bosib, mae busnesau, rhieni a hyfforddwyr wedi gweld eisiau'r clybiau chwaraeon.

Dywedodd Brian Davies, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Y peth pwysicaf yw eu bod nhw'n cadw'n heini, ond mae plant angen strwythur - mae'n anodd disgwyl iddyn nhw ymarfer ar ben eu hunain.

"Rydym yn gwybod o ganlyniadau ein arolwg bod angen targedu rhai agweddau i wneud yn si诺r nad oes cynnydd yn y ganran o blant sydd ddim yn cadw'n heini."

Roedd hyn yn cynnwys helpu plant mewn ardaloedd difreintiedig ac o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a du i wneud mwy o ymarfer corff, meddai.

Heriau mwy sylweddol dan do

Ond dywedodd Melissa Anderson, rheolwr gyfarwyddwr Valleys Gymnastics yn Nhrecelyn bod chwaraeon dan do yn wynebu heriau mwy sylweddol.

"Mae cymaint o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y llywodraeth wedi eu hanelu tuag at ymarfer corff yn yr awyr agored, felly dwi'n credu ein bod ni ymhellach ar ei h么l hi," meddai.

"Ar rai diwrnodau mae gennym hyd at 100 o fabolgampwyr yma ar unwaith, felly bydd rhaid i ni wneud newidiadau mawr."

Colli gweld ei gilydd

Roedd y cyfnod clo wedi profi pa mor bwysig yw gymnasteg i'w haelodau ifanc, meddai.

"Mae gweld cymaint y maen nhw wedi'i golli fe, a cholli gweld ei gilydd, wedi gwneud i mi sylweddoli ei fod yn fwy na chwaraeon iddyn nhw.

"Maen nhw'n colli allan ar eu bywyd cymdeithasol, a'u datblygiad meddyliol a chorfforol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r gampfa i'r cartref - mae trefn ymarfer Caitlin wedi newid yn llwyr

Mae bywyd wedi newid yn sylweddol i un o'r aelodau, Caitlin, sy'n naw oed.

O fod yn ymarfer gyda gweddill y gr诺p bedair gwaith yr wythnos, erbyn hyn mae'r gampfa, yr ysgol a'i chartref i gyd dan yr un to.

Dywed ei mam, Amanda, bod ei merch yn colli ei ffrindiau ac yn colli cael trefn gyson i'w dilyn.

"Rwyf yn eu clywed nhw'n annog ei gilydd ar Zoom pan maen nhw'n gwneud eu sesiynau, sy'n hyfryd, ond mae'n anodd creu yr un awyrgylch a'r gampfa yn y cartref.

"I ni mae e bron mor bwysig a mynd yn 么l i'r ysgol, yn nhermau ei hiechyd meddwl a chorfforol. Yn ystod y cyfnod clo mae hi wir wedi colli'r teimlad o hunaniaeth y mae gymnasteg yn ei roi iddi."

Ychwanegodd Caitlin: "Rwyf yn edrych ymlaen i gael gweld pobl heb orfod bod ar gyfrifiadur."