大象传媒

Sut mae symud Parc Cenedlaethol Eryri allan o'r cyfnod clo?

  • Cyhoeddwyd
Maes parcio EryriFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd ciwiau mawr cyn i'r cyfyngiadau gael eu gosod mewn sawl lle yn Eryri

Mae dau o'r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru wedi dechrau llacio rhai o'u cyfyngiadau coronafeirws - ond mae Eryri yn y gogledd yn oedi, gyda safleoedd amlwg fel Yr Wyddfa, Tryfan, Cwm Idwal a Chader Idris yn dal ynghau yn llwyr.

Wrth i Awdurdod y Parc edrych ar ffyrdd i symud ymlaen, mae 'na alw am gymryd y cyfle i ail-ystyried y cydbwysedd rhwng gofynion y diwydiant ymwelwyr a gwarchod Eryri a'i phobl.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod Gr诺p Ymgynghorol Diogelwch Gwynedd wedi ysgrifennu at holl drefnwyr digwyddiadau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri dros y misoedd nesaf yn gofyn iddyn nhw ail-drefnu.

Disgrifiad,

Peidio cynnal digwyddiadau yn Eryri tan 2021?

Roedd y golygfeydd cyn y cyfnod clo yn bryder - ciwiau hir o geir ger mannau mwya' poblogaidd Eryri, a phobl yn llenwi'r llwybrau.

Ond gyda'r cloi, newidiodd popeth - ac mae'r ardal wedi bod yn ddistaw ers hynny.

Fel ym mhobman, mae wedi bod yn ergyd drom i dwristiaeth yn lleol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynnal y busnes tu allan yw gobaith Emlyn Roberts o Fistro Hebog ond mae angen tywydd da i allu gwneud hynny

Ond mae dod allan o'r cyfyngiadau yn dod 芒 pheryglon ei hun, fel mae Emlyn Roberts o Fistro Hebog ym Meddgelert yn cydnabod: "Does 'na ddim incwm, mae'r staff i gyd ar y furlough.

"Mae 'na dipyn o wastraff yn y cyfnod - o'dda ni 'di buddsoddi'n barod at y flwyddyn ariannol nesa' - ll'nau, tacluso, trwsio, prynu peiriannau - a dim byd 'di digwydd yn y flwyddyn yma.

"'Swn i'n awyddus i agor y lle tu allan 'ma fel bod o'n ddiogel i'n nghwsmeriaid a'n staff i.

"Mi fasa'n bosib - trwy ganiat芒d mwya' thebyg y Parc Cenedlaethol - cael rhyw fath o ganopi.

"Mae'r lle yn gyfyng ofnadwy pan mae rhywun yn meddwl am ddau fetr.

"Felly y posibilrwydd mwya' sydd ganddon ni i gynnal y busnes dros y pedwar mis o'r tymor da ydy tu allan, os ydy'r tywydd yn caniat谩u."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymwybodol o'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd mae Elin Aron, perchennog hostel yn Llanberis

Mae Elin Aron, perchennog hostel Gallt y Glyn yn Llanberis, yn rhannu'r un pryderon.

"Mi fasa rhyw fath o amserlen yn helpu i ni gael gwybod bod angen dechrau gwneud pethau.

"Ond dwi'n gwybod bod hynny'n amhosib hefyd, felly mae'n rhaid i ni jyst fod yn barod i ymateb pan mae o yn digwydd.

"Wedyn mae'r gwrthdrawiad tu mewn i mi - oes, mae'r busnes angen i bobl ddod allan i fwyta a dod 'n么l i aros i Lanberis - ond dwi'n byw yma a mae 'nheulu i'n byw yma hefyd a dwi ddim isio rhoi nhw mewn perygl."

Mae rhannau o'r ddau barc - Arfordir Sir Benfro a Bannau Brycheiniog - wedi ailagor i bobl leol.

Wrth iddyn nhw edrych tua'r dyfodol, allai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri edrych ar fodel gwahanol o dwristiaeth?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Harold yn dweud y bydd croeso i ymwelwyr ond bod angen twristiaeth gynaliadwy yn y dyfodol

"Dydy'r adnoddau a'r capasiti a'r isadeiledd ddim yn ei le ar gyfer torf o bobl i ddod 'n么l r诺an..." yn 么l John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

"Ond mae 'na gyfle i ail-setio disgwyliadau ni a disgwyliadau pobl sy'n dod yma.

"Swn i'n licio gweld pobl yn dod 'n么l pan mae'n addas i hynny ddigwydd, mewn ffordd gall a mewn ffordd lle maen nhw'n cysidro eu heffaith ar yr amgylchedd, yr isadeiledd, yn ogystal 芒'r cymunedau a'r bobl leol."

Twristiaeth gynaliadwy

"Cyn Covid, roeddan ni'n stryglo fel partneriaid yn yr ardal i gadw fyny 'efo pwysau pobl. Dyma gyfle i ail-setio 'efo safonau uchel.

"Ma' ryw ddryswch weithiau, rhai yn poeni am y ddadl yna - poeni bod ni'n s么n am gadw pobl allan. Dim dyna'r bwriad a dim dyna be' ddigwyddith o gwbl.

"Dwi'n hapus i groesawu pobl yma, mae'r cyfle i symud y drafodaeth ymlaen i sut 'da ni'n cael twristiaeth gynaliadwy go iawn."

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod Gr诺p Ymgynghorol Diogelwch Gwynedd wedi ysgrifennu at drefnwyr digwyddiadau o fewn y sir yn gofyn iddyn nhw ail-drefnu pob un digwyddiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri tan y flwyddyn nesaf.

Roedd rasys lleol, fel Ras yr Wyddfa a Marathon Eryri, eisoes wedi penderfynu gohirio.

Mewn datganiad, mae'r cyngor yn dweud, "Mae'r neges yn ei gwneud yn glir fod Gwynedd yn croesawu a chefnogi digwyddiadau a gynhelir yn y sir, ond dan yr amgylchiadau presennol yn annog trefnwyr i ail-drefnu digwyddiadau sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer y misoedd nesaf er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch mynychwyr a chymunedau lleol yn ogystal ac i osgoi gwariant gan drefnwyr digwyddiadau mewn cyfnod mor ansicr.

"Mae hyn ar sail y dystiolaeth feddygol bresennol a'r tebygolwydd y bydd cyfyngiadau'n parhau am gyfnod estynedig - yn enwedig o ran cynnal digwyddiadau torfol."

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud mai ond newidiadau bychain fydd 'na yn yr wythnosau nesaf er mwyn caniat谩u i bobl leol wneud ymarfer corff. Mae Cyngor Gwynedd wedi cael cais am ymateb.

Ailagor yn raddol

Mi fydd mannau mwy prysur, sy'n fwy adnabyddus, ynghau yn llawer hirach.

Mewn datganiad, fe ychwanegodd yr awdurdod mai'r flaenoriaeth yw "diogelu ein cymunedau lleol a'n gwasanaethau iechyd" ac y bydd unrhyw "ailagor yn bwyllog a graddol".

Maen nhw yn dweud mai ailagor safleoedd lleol fydd yn digwydd i ddechrau a'u bod wedi cydweithio gyda phartneriaid i ystyried sut y bydd hyn yn gweithio.