大象传媒

'Rhaid gwaredu 2.8m peintiau o gwrw o dafarndai Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y Duke of Wellington pub yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na allai roi unrhyw addewidion ynghylch pryd y bydd tafarndai yn ailagor

Mae angen taflu tua 2.8m o beintiau o gwrw sydd wedi dyddio o dafarndai a chlybiau Cymru, yn 么l amcangyfrif mudiad CAMRA (Campaign for Real Ale).

Ond mae cwrw, sy'n "llygrol iawn", yn peri "risg amgylcheddol sylweddol" yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywed D诺r Cymru y bydd yn gweithio gyda busnesau "i gytuno sut a phryd y gellir cael gwared ar y diodydd".

Ond mae AS Plaid Cymru wedi rhybuddio nad oedd y cwmni wedi arfer delio 芒 chymaint o hen gwrw.

Mae'r 3,500 o dafarnau a chlybiau yng Nghymru - ynghyd 芒 chaffis a bwytai - wedi bod ar gau ers 20 Mawrth.

Codwyd y mater gyda gweinidog yr amgylchedd Lesley Griffiths gan AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd ym mhwyllgor amgylchedd y Senedd yr wythnos ddiwethaf ar 么l iddo fynychu cyfarfod o'r gr诺p trawsbleidiol ar gwrw a thafarnau yn gynharach.

Dywedodd Mr Gruffydd fod tafarnau a bragwyr yn "gweithio gyda D诺r Cymru orau y gallant i geisio rheoli 'dinistr'... y cwrw".

Gofynnodd a oes gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn hynny oherwydd ei fod yntau wedi clywed "fod hyn yn creu problemau capasiti i gwmni D诺r Cymru - dydyn nhw ddim wedi arfer gorfod delio 芒'r swm hwn o gwrw y mae angen ei waredu ac os ydynt yn ei gael yn anghywir yna yn amlwg bydd canlyniadau amgylcheddol".

Ymatebodd Lesley Griffiths "Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim wedi meddwl am gwrw yn cael ei ddinistrio, ond mae'n gwneud synnwyr yn y ffordd rydych chi wedi'i egluro ac, yn amlwg, byddai problem yngl欧n 芒 ble y byddai'n mynd."

Ychwanegodd y byddai'n sicrhau ei fod ar yr agenda ar gyfer ei chyfarfod nesaf gyda D诺r Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o dafarndai JD Wetherspoon yng Nghaerdydd ar y noson olaf cyn y cyfnod cloi

Dywedodd llefarydd ar ran D诺r Cymru wrth 大象传媒 Cymru: "Rydym yn y broses o gysylltu 芒 thafarndai i weld sut y gallwn weithio gyda nhw i gael gwared ar ddiodydd sydd wedi dyddio.

"Er ein bod yn awyddus i gefnogi'r busnesau hyn ym mha bynnag ffordd y gallwn, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod unrhyw warediad i'r rhwydwaith carthffosiaeth yn cael ei wneud mewn ffordd reoledig a gofalus.

"Byddwn yn gweithio gyda'r busnesau hyn i gytuno sut a phryd y gellir cael gwared ar y diodydd ac rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru."

Mae CAMRA yn amcangyfrif bod gan y 3,500 o dafarndai a chlybiau yng Nghymru, ar gyfartaledd, 10 casgen yn eu seler ar unrhyw adeg benodol.

Mae'r mwyafrif yn cynnwys 11 galwyn (88 peint) yr un - er bod llawer o gwrw yn dod mewn casgenni naw galwyn (72 peint).

Mae'r dyddiadau gorau cyn hynny ar gwrw wedi'i basteureiddio - gan gynnwys y mwyafrif o lagers - fel arfer tri neu bedwar mis ar 么l eu dosbarthu, tra bod y rhai ar gyfer cwrw go iawn a chwrw arall heb ei basteureiddio fel arfer yn chwech i naw wythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae gwaredu cwrw yn amhriodol yn peri risg amgylcheddol sylweddol gan ei fod yn llygrol iawn.

"Ein gwaith ni yw amddiffyn afonydd Cymru felly rydyn ni'n siarad 芒 chwmn茂au d诺r am waredu cwrw sydd wedi dyddio yn ddiogel oherwydd cyfnod y cloi.

"Gofynnwn i'r sector lletygarwch gysylltu 芒'u cwmni d诺r, neu os nad ar garthffos gyhoeddus i gysylltu 芒 ni, i ddod o hyd i ateb i waredu cwrw mewn ffordd sydd ddim yn niweidio'r amgylchedd.

"Rhaid peidio 芒 chael gwared 芒 chwrw i garthffos heb ganiat芒d y cwmni d诺r perthnasol, nac ychwaith i waith carthffosiaeth preifat, tanciau septig na draeniau d诺r wyneb, gan y bydd hyn yn effeithio ar yr amgylchedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol