Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020.
Dywedodd y beirniaid eu bod wedi cytuno i gynnwys 11 albwm eleni, yn hytrach na'r 10 arferol, oherwydd bod "cymaint o albymau o safon yn gymwys".
Bu panel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth yn dewis eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y beirniaid eleni oedd Elan Evans, Si芒n Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Si芒n Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.
Yr 11 albwm ar y rhestr fer
3 Hwr Doeth - Hip Hip Hwre
Ani Glass - Mirores
Carwyn Ellis & Rio 18 - Joia!
Cynefin - Dilyn Afon
Georgia Ruth - Mai
Gruff Rhys - PANG!
Gwilym Bowen Rhys - Arenig
Los Blancos - Sbwriel Gwyn
Llio Rhydderch - Sir F么n Bach
Mr - Amen
Yr Ods - Iaith y Nefoedd
Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei ryddhau yng Nghymru, a dywedodd y trefnwyr bod "cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid" ar y rhestr fer eleni.
Y cyfnod dan sylw oedd 31 Mai 2019 hyd at ddiwedd Mai 2020.
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi'i gohirio am eleni, mae'r trefnwyr yn cydweithio gyda G诺yl AmGen 大象传媒 Radio Cymru, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, yn ystod yr 诺yl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020