´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Y cyfarwyddwr Elgan Rhys

  • Cyhoeddwyd
Elgan RhysFfynhonnell y llun, Elgan Rhys

Y cyfarwyddwr Elgan Rhys sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Cêt Haf yr wythnos diwethaf.

Elgan oedd cyfarwyddwr yr addasiad llwyfan o'r nofel hynod boblogaidd Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros fu'n teithio theatrau Cymru ddechrau'r flwyddyn. Mae hefyd yn ysgrifennu ac yn perfformio.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Y tro cyntaf i mi gwrdd ag Anti Gladys. O'n i wedi clywed lot amdani, a'i bod hi wedi byw yn Las Vegas a San Francisco am ddegawdau, ac o'r diwedd o'dd hi wedi dychwelyd nôl i Bwllheli…

Da'th hi draw i gwrdd â fi a mrodyr, a dw i'n cofio gweld hi'n dod lawr y llwybr tuag at y tŷ ac olion Vegas wedi'i dilyn, yn gwisgo'n fwy lliwgar nag enfys, clustdlysa' mwy na platia', ac arogl fwya' drud a cheap r'un pryd… A'r peth mwya striking o'dd clywad hi'n siarad am y tro cyntaf… Acen Pen Llŷn wedi'i gymysgu efo un Americanaidd!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Yn gyhoeddus, merched reslo WWE e.e. Trish Stratus - ond yn gyfrinachol, y chwaraewr tenis Carlos Moyá (gŵglwch o).

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ddim yn aml dw i'n mynd yn embarrassed, ond un tro wrth chwarae rhan Sam Crosby yn Dyn Nath Ddwyn y Nadolig yn y coleg tra'n canu cân na'th y'n llais dorri yn ei chanol - siom.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Wyn oedd yn actio Sam Crosby yn y ffilm Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig, yn 1985

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn ystod cyfnod dan glo, dw i 'di bod yn ail-wylio un o fy hoff gyfresau o'm mhlentyndod, Buffy The Vampire Slayer, ac echnos nes i orffen y gyfres - a crio fel y diawl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Un cyffredin - byta gormod o siocled.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bryn Dyn Haearn ar ddiwrnod braf, sy' ger Oriel Glyn y Weddw. Naws heddychlon a golygfa stunning yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Es i a'r cariad draw am noswaith i'r Gŵyr flwyddyn diwethaf, ac aros mewn caban heb letrig, ond efo tân go iawn, ac aethon ni â gwin efo ni.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Empathetig. Spontaneous. Sensitif.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Y Dywysoges Diana - wastad yn licio underdog a rhywun sy'n herio'r system.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hocus Pocus, oherwydd Bette Midler.

Ffynhonnell y llun, Hocus Pocus
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hocus Pocus yn ffilm gwlt boblogaidd sy'n dilyn helyntion tair gwrach sydd wedi eu hatgyfodi un noson Calan Gaeaf

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i'n dod o deulu sy'n rhedeg cwmni bysus Caelloi. Cwmni hynaf Prydain, o bosib Ewrop, ac o bosib… y byd.

Beth yw dy hoff gân?

Ar y funud, I Know A Place gan MUNA - mae'n anthem am bwysigrwydd gofodau saff i gymunedau LHTD+, cymuned bydda i wastad yn rhan ohoni a'i chefnogi.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cacennau pysgod Thai efo saws sweet chilli, cinio Sul Mam, a profiteroles salted caramel.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio hi gyda'r teulu, cariad a fy ffrindiau gorau, i gyd ar lan y môr Pwllheli, yn cael barbeciw mawr efo cerddoriaeth i ddawnsio iddi.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ncuti Gatwa, actor anhygoel, sy' newydd gael ei enwebu am BAFTA am ei rôl fel Eric yn Sex Education.

Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Eric yw ffrind gorau'r prif gymeriad, Otis, yn y gyfres Netflix hynod boblogaidd, Sex Education, sydd wedi ei ffilmio yn rhannol yn ne ddwyrain Cymru

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Mali Ann Rees

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw