Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Cadw rheol 2m yn rhoi prifysgolion Cymru mewn sefyllfa anodd'
Byddai cadw'r rheol dau fetr yn rhoi prifysgolion Cymru mewn "sefyllfa anodd iawn" wrth geisio denu myfyrwyr newydd, mae pwyllgor wedi clywed.
Fe glywodd pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd hefyd bod risg y gallai prifysgolion wynebu colli miloedd o swyddi heb gymorth ariannol ychwanegol.
Wrth drafod pellhau cymdeithasol, dywedodd is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, y byddai'n anoddach recriwtio os yw sefydliadau dros y ffin yn agosach at reol 1m.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn gynharach y byddai rheol "un metr a mwy" yn cael ei chyflwyno yn Lloegr o 4 Gorffennaf.
Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai Cymru yn parhau i gymryd agwedd ofalus.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wrth y pwyllgor bod y rheol dau fetr yn golygu bod dysgu yn "heriol iawn".
Mae prifysgolion yn wynebu "argyfwng mawr", meddai, ac mae angen "gweithredu yn y tymor byr".
'Colli hyd at 拢400m'
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn amcangyfrif y gallai prifysgolion Cymru golli incwm o 拢200m-拢400m yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Dywed y corff y bydd yn rhaid i sefydliadau ddechrau prosesau diswyddo yn gynnar yn yr haf os nad oes cyllid ychwanegol ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Mae prifysgolion yn disgwyl gostyngiad sylweddol yn incwm ffioedd dysgu o fis Medi, yn enwedig gan fyfyrwyr rhyngwladol.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd prif weithredwr HEFCW, David Blaney, bod yr her sydd yn wynebu'r prifysgolion "y tu hwnt i gyllideb" y corff.
Nid oedd yn darogan y byddai sefydliadau mewn sefyllfa o fod yn fethdalwyr ond roedd yn pryderu am y mesurau y byddai'n rhaid eu cymryd i atal hynny, fel torri swyddi.
Mewn papurau a gyflwynwyd i'r pwyllgor cyn y cyfarfod ddydd Mawrth, mae HEFCW yn amcangyfrif y byddai gostyngiad mewn incwm o 拢300m yn arwain at golli'r hyn sy'n cyfateb i 5,000 o swyddi amser llawn.
Lleihad myfyrwyr rhyngwladol
"Yr hyn sydd yn hanfodol yw ein bod yn gallu cadw pethau i fynd yn weddol wastad," meddai Medwin Hughes, Is Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
"Yng nghyd-destun y cyfnod adfer, mae gan brifysgolion Cymru rhan allweddol i chwarae."
Ychwanegodd yr Athro Boyle bod materion yngl欧n ag myfyrwyr rhyngwladol yn "ddifrifol iawn, iawn" gyda nifer o sefydliadau yn disgwyl 50-70% o leihad yn y niferoedd.
Mae nifer o faterion ymarferol y tu hwnt i reolaeth y prifysgolion meddai gan gynnwys llwyth o visas sydd wedi pentyrru, a diffyg hediadau.
Mae rhai prifysgolion yn Awstralia yn llogi awyrennau o China a Singapore i'r myfyrwyr ddod yn 么l.
Efallai bod angen ystyriaeth yngl欧n ag "a ddylen ni fod yn llogi awyrennau i ddod 芒 myfyrwyr yn 么l i Gymru hefyd", meddai'r Athro Boyle.