大象传媒

Beth yw eich tartan lleol chi?

  • Cyhoeddwyd
tartan sirolFfynhonnell y llun, Jack Capron

Er yn cael ei gysylltu gan amlaf gyda'r Alban, mae yna bron i 50 o batrymau tartan sydd yn cael eu hystyried yn rhai 'Cymreig'.

Mae rhain yn cynnwys rhai ar gyfer cyfenwau nodweddiadol Gymreig fel Griffiths, Jones neu Owen; un i'n nawddsant, Dewi Sant; ac mae hyd yn oed un swyddogol Senedd Cymru!

Ond nid oedd Jack Capron o Gaerdydd yn meddwl fod hynny'n ddigon, ac mae wedi mynd ati i ddylunio patrymau tartan, neu frithwe, newydd - un i bob sir yng Nghymru.

"O'n i wedi i dylunio'r tartan ar 么l gweld Nicola Sturgeon yn gwisgo masg tartan, ac wedi dysgu am dartan Cymreig," meddai, wrth egluro'r ysbrydoliaeth tu 么l i'r patrymau.

Ffynhonnell y llun, Jack Capron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y patrymau mae Jack wedi eu dyluno ar gyfer Ceredigion a Chonwy

Tartan Powys yw'r unig dartan rhanbarthol sydd ar gael eisoes, a 'bach o hwyl' oedd hi i Jack, i geisio dylunio patrymau tartan newydd i weddill y siroedd, oherwydd ei fod yn batrwm mae'n ei hoffi yn fawr.

"Dwi'n mwynhau gwisgo tartan gan fod y patrwm mor syml, ond mae yna filoedd o gyfuniadau posib."

Fodd bynnag, mae'n teimlo fod yna le yn niwylliant Cymru i batrymau tartan, ac er ei fod yn dradoddiadol yn cael ei gysylltu 芒'r Alban, hoffai Jack weld hyn yn newid:

"Fel cyd-Geltiaid, mae gennym ni lawer o hanes tebyg, sydd yn gallu cael ei weld yn ein hieithoedd a dathliadau, fel Calennig a Hogmanay. Dwi'n credu dylwn ni hefyd rannu'r defnydd yma, er ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth Albanaidd.

"Hoffwn weld mwy o batrymau tartan Cymru fel y gall mwy o bobl eu gwisgo ac y gallwn ddatblygu tartan Cymreig. Dwi'n meddwl y byddai'n helpu i ledu hunaniaeth Gymreig ar draws y byd.

"Oes, mae yna wisg Gymerig i ferched, ond byddwn i'n hoffi gweld gwisg genedlaethol i ddynion hefyd - efallai mai tartan all hwnnw fod!"

Ffynhonnell y llun, Jack Capron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jack wedi mwynhau datblygu patrymau tartan i siroedd Cymru

Nid hap a damwain ydi'r lliwiau yn y patrymau - mae Jack wedi mynd i ymdrech i sicrhau fod y lliwiau yn addas ar gyfer pob rhanbarth.

"Er mwyn cael y lliwiau cywir, mi wnes i ddwyn ysbrydoliaeth gan yr arfbeisiau neu faneri y rhanbarthau, a dewis y prif liwiau.

"Er enghraifft y prif liwiau ym maner Caerdydd yw gwyn, coch, gwyrdd ac ychydig o binc. Felly mi roddais i nhw at ei gilydd, a symud y lliwiau o gwmpas, tan i mi ddod at batrwm o'n i'n ei hoffi."

Ffynhonnell y llun, Jack Capron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Baner Caerdydd a'r tartan gafodd ei ysbrydoli ganddi

Mae Jack yn gobeithio y byddai'r patrymau yma yn dod 芒 phobl at ei gilydd.

"Byddai tartan lleol yn helpu pobl i greu cyswllt 芒'u rhanbarth a'u cymuned, ac yn yn gwneud tartan yn fwy accessible i bobl sydd eisiau ei wisgo, er yn 么l traddodiad, mae ond yn gallu cael ei wisgo gan deuluoedd penodol."

, gyda nifer yn dweud y byddan nhw wrth eu bodd yn gwisgo patrwm eu hardal. A fydd modd gwneud hynny tybed?

"Mock-ups yn unig ydyn nhw," meddai Jack, "ond os mae pobl yn eu hoffi, bydda i'n eu cyflwyno [i'w cofrestru'n swyddogol]."

Felly, pwy a 诺yr - efallai y byddwch chi'n fuan yn gallu dangos eich cariad tuag at eich ardal trwy ddangos eich coesau...

Ffynhonnell y llun, Jack Capron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Os ydi tartan Casnewydd yn rhy llachar i chi, beth am symud i'r Fflint?

Hefyd o ddiddordeb: