Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i wersi hanes Cymru a BAME fod yn orfodol'
Dylai dysgu hanes Cymru a hanes pobl ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig (BAME) fod yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd meddai Plaid Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Sian Gwenllian AS, na ddylai dysgu hanes Cymru a BAME fod yn "ddewisol ac i fyny i ysgolion unigol".
Mae deiseb sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod "dysgu hanes pobl ddu a phobl o liw (POC - 'People of colour') yn orfodol mewn ysgolion yng Nghymru wedi denu 34,000 llofnod.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn "sicrhau" y bydd ysgolion yn "rhoi ystyriaeth lawn o hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymreig a hanes ehangach BAME".
Mesur drafft
Mae disgwyl i fesur drafft cwricwlwm Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ar 8 Gorffennaf. Yr unig bynciau gorfodol yn y cwricwlwm newydd yw: Llythrennedd, Rhifedd a gallu digidol; crefydd, gwerthoedd a moeseg: Perthynas ac addysg rhyw: Cymraeg a Saesneg.
Ond mae galwadau diweddar i gynnwys addysg BAME mewn ysgolion wedi ei adlewyrchu mewn adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i effaith anghymesur Covid-19 ar y gymdeithas BAME.
Un o'r argymhellion yn yr adroddiad oedd fod angen "cynnwys BAME a hanes/addysg am y Gymanwlad yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru yn 2022 ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd er mwyn atal hiliaeth a hybu arwahanrwydd diwylliannol".
Dadl Seneddol
Bydd Plaid Cymru'n arwain dadl yn y Senedd ddydd Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod dysgu am hanes Cymru a hanes BAME yn orfodol yng Nghymru.
Dywedodd Sian Gwenllian y byddai gwneud yr elfennau hyn yn "rhan statudol o'r cwricwlwm newydd" yn "gwneud yn iawn am anghyfartaledd strwythurol" gan sicrhau Cymru "gyfartal a chynhwysol" drwy'r system addysg.
"Mae Plaid Cymru wedi dadlau'n hir fod angen i hanes Cymru fod yn elfen statudol o'r cwricwlwm newydd fel y gall pob plentyn ddod i ddysgu a deall am hanes ein cenedl," meddai.
"Ond mae gwrthdystiadau diweddar Black Lives Matter wedi taflu goleuni ar yr angen i hanes pobl ddu a phobl o liw hefyd i gael ei gynnwys fel elfen statudol o'r cwricwlwm.
"Nid yw Mesur Cwricwlwm Llywodraeth Cymru'n ei wneud yn orfodol ar hyn o bryd i unrhyw ysgol i ddysgu hanes Cymru na hanes pobl ddu. Yn hytrach, mae'n gadael yr elfennau hyn yn rhai dewisol ac i fyny i ysgolion unigol eu dysgu.
"Mae cael cwricwlwm pen agored yn golygu na fydd pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu am faterion yr ydym yn gredu sydd yn allweddol i greu cymdeithas fwy cyfartal a ffyniannus, ac i siapio dinasyddion sydd yn ymwybodol o'u gorffennol."
"Byddai'n drasiedi pe na bai Llywodraeth Cymru'n gafael yn y cyfle hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig bod dysgu'n gynhwysol ac yn tynnu ar brofiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru gyfoes. Yn y cwricwlwm newydd, bydd dysgwyr yn archwilio'r cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang i bob agwedd ar ddysgu, ac i wneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol.
"Byddwn yn gweithio gydag Estyn i sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymreig ac ehangach - a byddwn yn sefydlu gweithgor i oruchwylio datblygiad adnoddau dysgu, a nodi unrhyw fylchau yn yr adnoddau neu hyfforddiant."