Newyddion 'cwbl drychinebus' i weithwyr Airbus
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i dorri 1,700 o swyddi gan gwmni Airbus wedi cael ei ddisgrifio fel "cwbl drychinebus" gan weinidog yr economi.
Dywedodd Ken Skates y bydd nifer anferth o weithwyr yn bryderus dros ben am y cyhoeddiad.
Mae disgwyl i'r colledion yn y DU ddigwydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint a Filton ger Bryste.
Dywedodd y cwmni nos Fawrth eu bod yn bwriadu colli 15,000 o swyddi drwy Ewrop wrth geisio delio gydag effaith yr argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite yng Nghymru: "Byddai colli'r swyddi yma yn Airbus yn cael effaith ddinstriol ar y sector awyrofod yng Nghymru ac ar economi Cymru yn ehangach.
"Mae Unite wedi bod yn galw ar lywodraeth y DU ers misoedd am gynllun i gefnogi'r sector... mae'r gefnogaeth yma wedi dod gan Ffrainc a'r Almaen. A fydd llywodraeth y DU nawr yn gwneud yr hyn sydd angen i warchod swyddi yn y DU?
"Ry'n ni'n galw ar Airbus i gamu nôl rhag gweithredu'r cynllun yma. Rhaid gwneud popeth i drafod gyda'r llywodraeth i weld os oes modd rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol tan i'r argyfwng yma ein gadael.
"Ni fydd Unite yn derbyn unrhyw gynnig sy'n cynnwys diswyddiadau gorfodol i'n haelodau."
Mae'r cwmni'n disgwyl diswyddo:
1,700 o weithwyr yn y DU
5,000 o weithwyr yn Ffrainc
5,100 o weithwyr yn yr Almaen
900 o weithwyr yn Sbaen
1,300 o weithwyr yn safleoedd eraill y cwmni ar draws y byd.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd prif weithredwr Airbus, Guillaime Faury: "Mae Airbus yn wynebu'r argyfwng mwyaf difrifol yn hanes y diwydiant.
"Mae'r mesurau yr ydym wedi eu cymryd hyd yn hyn wedi ein galluogi i amsugno sioc gychwynnol y pandemig byd-eang hwn."
Ychwanegodd y cwmni y bydd mwy o fanylion am y diswyddiadau yn ddiweddarach yn yr wythnos yn dilyn trafodaeth gyda'r undebau.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Mae'r newyddion yma'n gwbl drychinebus.
"Fe fydd nifer enfawr o weithwyr yn Airbus yn eithriadol bryderus o glywed y newyddion yma - mae fy meddyliau i gyda hwy a'u teuluoedd.
"Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r cwmni, ei weithlu, yr undebau a'r cymunedau sydd wedi'u heffeithio gan hyn - a byddaf yn datgan ymateb Llywodraeth Cymru mewn mwy o fanylder heddiw.Â
"Mae'r sector mewn argyfwng a rhaid i Lywodraeth y DU weithredu'n gyflym ac yn bendant nawr er mwyn achub y diwydiant a'i gadwyn gyflenwi. Rydyn ni wedi gweld arwyddion o hyn ers wythnosau a rhaid wrth gamau ar fyrder ar lefel y DU er mwyn atal yr argyfwng hwn rhag gwaethygu fwy fyth."
Rhybuddiodd AS Plaid Cymru, Llyr Gruffydd y gallai dau draean o'r 1,700 o swyddi gael eu colli ym Mrychdyn - rhyw 1,100 o swyddi yng Nghymru.
Ychwanegodd bod bob un o swyddi Airbus yn cefnogi tair arall yn lleol.
"Ry'n ni'n sôn am 25,000 o bobl sy'n ddibynnol ar Airbus ym Mrychdyn am eu gwaith," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Rwyf wedi siarad gydag Airbus yr wythnos hon a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni, yr undebau a Llywodraeth Cymru i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r gweithwyr a'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn y gadwyn gyflenwi ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020