大象传媒

Oes gormodedd o fflatiau myfyrwyr yn y brifddinas?

  • Cyhoeddwyd
Adeilad 25-llawr y Zenith yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, 大象传媒
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan adeilad 25-llawr Y Zenith yng Nghaerdydd 675 o stafelloedd, ond fe allai nifer aros yn wag oherwydd yr argyfwng coronafeirws

Gallai gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol weld gormodedd o fflatiau myfyrwyr gwag yng Nghaerdydd, yn 么l datblygwr.

Mae prifysgolion yn disgwyl gweld llai o fyfyrwyr yn dechrau ym mis Medi oherwydd y pandemig coronafeirws.

Mae rheolwyr nifer o ddatblygiadau llety preifat i fyfyrwyr yn honni y byddan nhw mewn trafferthion ariannol os na chawn nhw ganiat芒d i osod ystafelloedd i denantiaid heblaw myfyrwyr yn unig.

Dywedodd un arbenigwr eiddo fod gormod o stafelloedd safon uchel ar gael ar gyfer myfyrwyr, ac y gallai rhai cwmn茂au fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dros y blynyddoedd diweddar mae nifer o leoedd preswyl pwrpasol ar gyfer myfyrwyr wedi cael caniat芒d cynllunio yn y ddinas, gyda sawl un wedi'i anelu ar gyfer myfyrwyr tramor.

Cyn y pandemig roedd honiadau bod datblygwyr yn cymryd mantais ar y system gynllunio ar 么l i nifer o stafelloedd gael eu gosod i denantiaid oedd ddim yn fyfyrwyr.

Ffynhonnell y llun, Rio/Watkin Jones Group
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sut fydd yr adeilad talaf yng Nghymru yn edrych pan gaiff ei adeiladu

Ers dechrau'r pandemig mae rheolwyr tri llety myfyrwyr pwrpasol wedi gwneud cais i gael gosod stafelloedd i bobl heblaw myfyrwyr.

Mae datblygiad The Zenith, a gafodd hawl dros dro yn 2018 i osod 401 o welyau i rai oedd ddim yn fyfyrwyr, wedi gwneud cais arall am hawl i wneud hynny.

Dywed y rheolwyr eiddo Fusion Students fod coronafeirws wedi amharu ar y sector mewn ffordd na welwyd mo'i debyg o'r blaen.

Dywedodd y rheolwr Adam Cohen y gallai'r ddinas weld nifer yn llai o fyfyrwyr yn y tymor newydd, ac y byddai'r cwmni dan "straen ariannol sylweddol" os na fyddai stafelloedd yn cael eu llenwi.

Mae cwmni Collegiate, sydd wedi gwneud cais am newid defnydd mewn dau o'r safleoedd llety myfyrwyr sydd ganddyn nhw, yn dweud fod bwcio stafelloedd wedi dod i stop fwy neu lai ers i brifysgolion gau ym mis Mawrth.

Mae 30% o fyfyrwyr tramor yn dod o China, meddai'r cwmni, a gallai unrhyw gyfyngiadau ar deithio arwain at lawer llai o geisiadau am lety.

Ers 2017, mae Cyngor Caerdydd wedi caniat谩u 7,500 o stafelloedd dan reolaeth preifat i fyfyrwyr.

Yn 么l yr ymgynghorydd eiddo David Feeney, o gwmni Cushman and Wakefield, tra bod y farchnad yn un broffidiol roedd y ddinas eisoes yn cael trafferth oherwydd gorgyflenwad o fflatiau safon uchel.

"Os ydym am weld llai o fyfyrwyr o dramor, yna mae'r broblem yn mynd i waethygu, a gall rhai cwmn茂au fynd i ddwylo'r gweinyddwyr oherwydd y cwymp."

Ychwanegodd fod y sefyllfa'n newid drwy'r amser ac y bydd rhaid aros tan fis Medi i weld y darlun yn fwy clir.

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud cais cynllunio i newid defnydd un llety myfyrwyr i le ar gyfer 46 o bobl ddigartref am y pum mlynedd nesaf, yn y gobaith y bydd y sefyllfa wedi dod yn 么l i normalrwydd erbyn hynny.