Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwysau'n cynyddu ar y llywodraeth am gynllun i ysgolion
Mae pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i amlinellu eu cynlluniau ar gyfer addysg ysgolion ym mis Medi.
Mae dros 50 o arbenigwyr addysg ac iechyd wedi llofnodi llythyr agored at Kirsty Williams yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddychwelyd plant a phobl ifanc i'r ysgol yn llawn amser o ddechrau mis Medi fan bellaf.
Yn y llythyr mae'r meddygon, gwyddonwyr ac athrawon yn dweud bod y cyfnod clo "eisoes wedi bod yn hynod niweidiol" a bod y dull o ddysgu cyfunol sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer mis Medi "yn debygol o waethygu'r anghydraddoldebau presennol".
Maen nhw hefyd yn dweud bod plant mewn "risg isel o COVID-19 ac yn annhebygol o chwarae rhan sylweddol wrth drosglwyddo".
Ddydd Sul fe rybuddiodd prifathrawon bod yna "risg difrifol" na fydd ysgolion yn barod i ailagor ym mis Medi os na ddaw cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am eu cynlluniau ddydd Llun.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yna ddiweddariad i'r canllawiau i ysgolion "yn y dyddiau nesaf".
Yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun, dywedodd Mark Drakeford bod Cymru mewn sefyllfa "unigryw" gan fod plant yn yr ysgol yn barod, ac ychwanegodd ei fod eisiau "dysgu gwersi o'r wythnosau diwethaf er mwyn cynllunio ar gyfer Medi".
"Byddwn yn cyhoeddi'r cynllun ar gyfer mis Medi cyn diwedd y tymor hwn."
"Mae effaith y cyfnod clo ar ddysgu eisoes wedi bod yn hynod niweidiol ac mae tystiolaeth bod effeithiau hyn wedi bod yn anghyfartal gyda'r plant mwyaf agored i niwed yn cael eu taro galetaf," meddai'r llythyr.
"Mae'r dull dysgu cyfunol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi yn debygol o waethygu'r anghydraddoldebau presennol yn unig oherwydd gwahaniaethau mewn mynediad at adnoddau (gliniaduron, desg, lle i weithio) a gallu rhieni a gwarcheidwaid i helpu plant gyda'u gwaith ysgol.
Mynediad cyfyngedig yn 'niweidiol'
"Yn ogystal, os na all plant fynychu'r ysgol a chlybiau ar 么l ysgol, ni fydd llawer o rieni'n gallu dychwelyd i'r gwaith amser llawn, a fydd yn cynyddu lefelau amddifadedd yng Nghymru.
"Mae hyn yn gwbl groes i flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o leihau anghydraddoldebau iechyd."
"Rydym yn cydnabod bod y pandemig a'r cyfnod clo wedi bod yn niweidiol i bawb a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i leihau haint lle bo modd, ond cyfrifoldeb llunwyr polisi hefyd yw cydbwyso unrhyw niwed 芒 buddion unrhyw bolis茂au.
"Credwn fod y mynediad cyfyngedig parhaus i ysgolion i'r mwyafrif o blant yn anghymesur o niweidiol ac y dylid ei gywiro cyn gynted 芒 phosibl."
Mae Dr Sarah Lewis a gydlynodd y llythyr yn Epidemiolegydd Genetig ac mae ganddi blentyn mewn ysgol Gymraeg.
Dywedodd: "Mae addysg ran-amser yn anymarferol i'r mwyafrif o rieni, mae llawer yn gweithio'n llawn amser ac felly ddim yn gallu cefnogi dysgu gartref, nid yw rhai rhieni'n gallu gweithio gartref ac nid ydyn nhw'n gallu gweithio os nad yw eu plant yn yr ysgol.
"Dyw hi ddim yn glir pa feini prawf y mae llywodraeth Cymru yn eu gosod i blant allu dychwelyd i'r ysgol yn llawn amser.
"Dwi ddim yn credu ei bod yn realistig disgwyl i'r clefyd gael ei ddileu heb frechlyn, dyw canolbwyntio ar y gyfradd R ddim yn ddefnyddiol pan fydd cyfraddau heintiau mor isel ag y maent yng Nghymru bellach, oherwydd gallan nhw amrywio o ddydd i ddydd.
Llai tebygol o ledaenu'r feirws
"Ry'n ni'n gwybod drwy ddata llawer o wledydd, gan gynnwys Sweden, lle arhosodd ysgolion ar gyfer plant dan 16 oed ar agor, mai anaml iawn y bydd y clefyd yn effeithio ar blant, ac mae sawl astudiaeth yn awgrymu eu bod yn llai tebygol o'i ledaenu nag oedolion.
"Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos nad oedd gan athrawon a oedd yn agored yn gynnar yn yr achosion, pan oedd ysgolion yn dal ar agor i bob disgybl a chyfraddau heintiau yn uchel, risgiau uwch o gymharu 芒 gweithwyr proffesiynol eraill."
Yn y cyfamser mae deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i'w cynlluniau ar gyfer dysgu cyfunol, ac i ddychwelyd pob disgybl i'r ysgol yn llawn amser ym mis Medi, wedi cael ei lofnodi gan 6,700 o bobl.
Wrth gael ei holi dros y penwythnos dywedodd un gweinidog yng nghabinet y llywodraeth ei bod yn gobeithio cynnig cyfarwyddyd i ysgolion yn fuan.
"Rydyn ni'n gobeithio rhoi gwell syniad i [ysgolion] o sut olwg fydd ar fis Medi [cyn diwedd y tymor]" meddai'r Farwnes Eluned Morgan, "ond unwaith eto mae'n dibynnu ar sut olwg sydd ar y feirws ym mis Medi."
"Os yw'r niferoedd yn parhau i ostwng gallwn fynd yn 么l i system sy'n fwy normal.
"Bydd cyngor am yr hyn y dylen nhw [ysgolion] baratoi ar ei gyfer ond os bydd y feirws yn newid - efallai y bydd pethau'n newid - mae 6 wythnos yn amser hir - mae'n rhaid i ni weld sut mae'r feirws yn ymateb."